Mae Gwobrau Cymunedau Bywiog HSDd yn dathlu ein cymuned yn Sir Ddinbych a’r bobl sy’n byw yma. Bydd y ffocws ar y rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cyflawni rhywbeth mewn chwaraeon neu weithgaredd, y celfyddydau a diwylliant.

Mae HSDd wedi trefnu Gwobrau Chwaraeon Cymunedol Sir Ddinbych yn flaenorol ac yn llwyddiannus. Cynhaliwyd y gwobrau blynyddol hyn ym Mhafiliwn Llangollen ac roeddent yn dathlu llwyddiannau ac ymroddiad y gymuned chwaraeon yn Sir Ddinbych. Ar gyfer ein Gwobrau Cymunedau Bywiog HSDd newydd, rydym yn symud i dref arfordirol y Rhyl a Phafiliwn y Rhyl.

Bydd y digwyddiad yn anrhydeddu unigolion, grwpiau, timau, ysgolion a chlybiau sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cyflawni rhywbeth mewn chwaraeon neu weithgaredd, y celfyddydau a diwylliant.

Cynhelir y seremoni ar 22 Tachwedd 2023 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl a disgwylir y bydd dros 400 o westeion, gan gynnwys trigolion, partneriaid a busnesau lleol yn mynychu’r digwyddiad mawr hwn yn Theatr y Pafiliwn, y Rhyl ochr yn ochr â’r holl enwebeion a’u teuluoedd.

Bydd enwebiadau ar gyfer y gwobrau yn agor ar 5ed Mai, gyda HSDd yn annog holl aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan ac enwebu rhywun yn eu cymuned trwy’r wefan.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae gwobrau Cymunedau Bywiog HSDd yn ddigwyddiad gwych sy’n helpu i gydnabod a dathlu llwyddiant unigolion, timau, clybiau ac ysgolion yn Sir Ddinbych. Rydym wrth ein bodd yn dod â’r digwyddiad hwn i theatr Pafiliwn y Rhyl, ac mae’n wych cael cynnal y digwyddiad mawreddog hwn ym mwyty a bar 1891 eleni. Mae’n lleoliad gwych yn un o’n cyfleusterau blaenllaw na allwn aros i’w rannu â’r gymuned. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn yr holl enwebiadau, ac rwy’n siŵr y bydd hynny’n rhoi tasg anodd i’r beirniaid ddewis ohoni!”

Bydd y beirniadu ar gyfer y gwobrau yn digwydd ym mis Awst a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi’n fyw ar lwyfan Theatr Pafiliwn y Rhyl ym mis Tachwedd.

Am fwy o wybodaeth ac i enwebu ewch i: https://denbighshireleisure.co.uk/ac-sports-awards-23/