Mae Hamdden Sir Ddinbych yn falch o fod yn coffáu 100 mlynedd ers Apêl y Pabi gyda llu o weithgareddau dros y bythefnos nesaf.

Bydd Hamdden Sir Ddinbych yn goleuo ei atyniadau yn goch; yn rhedeg gwersyll ‘boot camp’ am ddim yn ardal ymarfer tu allan Hamdden Rhyl gyda’r holl elw’n mynd at yr elusen; bydd yr holl staff yn gwisgo coch i weithio ar 11eg o Dachwedd ac mae’r cwmni hefyd yn herio ei aelodau ffitrwydd i gwblhau 100 milltir mewn un wythnos, i ddathlu canmlwyddiant y Lleng Prydeinig Brenhinol.

Mae eleni’n nodi 100 mlynedd ers i draddodiadau Coffa’r genedl ddod at ei gilydd gyntaf.

Os yw aelodau ffitrwydd yn llwyddo i gwblhau her 100 milltir rhwng 4ydd a’r 11eg o Dachwedd, ar draws pob un o’r 8 ganolfan hamdden, ar unrhyw offer ymarfer, yna bydd rhodd o £10,000 i Apêl Pabi’r Lleng Prydeinig Brenhinol wedi’w gefnogi gan amrywiaeth o gyflenwyr y cwmni.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Rydym yn teimlo’n hynod o anrhydeddus yn Hamdden Sir Ddinbych i allu anrhydeddu canmlwyddiant y Lleng Prydeinig Brenhinol ac Apêl y Pabi trwy lunio rhaglen o weithgareddau dros y pythefnos nesaf. Byddwn mewn dyled am byth i’r rhai sydd wedi peryglu eu bywydau er lles pob un ohonom ac i wirfoddolwyr anhygoel y Lleng Prydeinig a’r Apêl Pabi sydd wedi bod yn codi arian hanfodol i gymuned y Lluoedd Arfog dros y ganrif ddiwethaf. Wrth oleuo atyniadau Hamdden Sir Ddinbych yn ystod wythnos y cofio, hoffem i bawb yn Sir Ddinbych uno ar draws crefyddau, diwylliannau a chefndiroedd i gofio aberth cymuned y Lluoedd Arfog am y ganrif ddiwethaf, er mwyn i ni allu bod lle’r ydym heddiw.”

Dywedodd Claire Lewis, Codwr Arian Cymunedol y Lleng Prydeinig Brenhinol, Gogledd Cymru: “Hoffem ddweud diolch enfawr i Jamie Groves a’i dîm yn Hamdden Sir Ddinbych am gefnogi Apêl Pabi Gogledd Cymru mewn ffordd mor greadigol ac arloesol a helpu ni i godi arian hanfodol i gymuned y Lluoedd Arfog i ddathlu’n Canmlwyddiant. Diolch yn fawr hefyd i’n Trefnydd Apêl Pabi ymroddedig yn Y Rhyl, Richard Kendrick am weithio’n rhagweithiol mewn partneriaeth agos a helpu i wneud i hyn ddigwydd.”

Mae’r pabi, dwy funud o ddistawrwydd, Diwrnod y Cadoediad, y gwasanaeth i’r Rhyfelwr Anhysbys, a’r orymdaith ger y Senotaff yn draddodiadau y mae miliynau’n cymryd rhan ynddynt bob blwyddyn a bydd wythnos goffa eleni yn cael ei threulio ar fyfyrio ar waith elusennol anhygoel y Lleng Prydeinig Brenhinol a’r Apêl Pabi yn ystod y 100 mlynedd diwethaf.

Bydd Canolfan Grefft Rhuthun, Twr Awyr Y Rhyl, Theatr Pafiliwn Y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, rhaeadr yr Arena Digwyddiadau, Pencadlys Hamdden Sir Ddinbych a mannau aros bysiau arfordirol Sir Ddinbych i gyd yn cael eu goleuo yn goch rhwng 28 Hydref ac 11eg Tachwedd i symboleiddio lliw’r pabi coch, symbol adnabyddus sy’n cario cyfoeth o hanes ac ystyr.

Bydd y cwmni hefyd yn coffáu’r can mlynedd gyda’u cyfryngau cymdeithasol wrth wisgo Pabi’r Lleng Brenhinol Prydeinig gyda balchder ar draws eu holl gwefannau. Yn ogystal ag annog staff i wisgo coch ar 11eg Tachwedd a rhoi rhodd i’r achos.

Am ragor o wybodaeth ac i gyfrannu, ewch i denbighshireleisure.co.uk/royalbritishlegion100