Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn goleuo ei atyniadau yn goch i gefnogi’r ymgyrch ‘Go Red for Dyslexia’.

Bydd Canolfan Grefft Rhuthun, Twr Awyr Y Rhyl, Theatr Pafiliwn Y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, rhaeadr yr Arena Digwyddiadau a mannau aros bysiau arfordirol Sir Ddinbych i gyd wedi’u goleuo’n goch rhwng 22 a 25 Hydref fel rhan o fis ymwybyddiaeth dyslecsia.

Nod ‘Go Red for Dyslexia’ yw codi ymwybyddiaeth am ddyslecsia, cyflwr cyffredin sy’n achosi anawsterau wrth ddysgu darllen. Credir bod dyslecsia yn effeithio rhwng 5-10% o boblogaeth y byd, gan wneud eu bywydau bob dydd yn fwy heriol. Ers ei ddarganfod, mae gweithwyr iechyd proffesiynol ledled y byd wedi bod yn gweithio ar wahanol ddulliau a strategaethau addysgu i helpu pobl â dyslecsia i reoli eu cyflwr.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Rydym yn goleuo ein hatyniadau i gefnogi’r rhai sy’n byw gyda dyslecsia. Mae dyslecsia yn effeithio bywydau llawer o bobl, p’un a ydynt wedi cael diagnosis eu hunain, neu’n cefnogi ffrindiau, teulu neu gydweithwyr sy’n gweithio i oresgyn heriau dyslecsia yn eu bywyd bob dydd. Mae ‘Go Red for Dyslexia’ yn cydnabod dyslecsia ar lefel fyd-eang, gan rannu gwybodaeth gadarnhaol am y cyflwr, a helpu i leihau’r stigma. Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn falch o gefnogi eu hymgyrch.”