I gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, sy’n rhedeg o ddydd Llun 15 i ddydd Sul 21 Mai 2023, mae HSDd wedi bod yn annog cwsmeriaid a staff i gymryd ychydig o amser i ganolbwyntio ar eu lles meddyliol.

Mae llawer o astudiaethau wedi dangos y gall gweithgaredd corfforol helpu gydag iechyd meddwl, ac yn ogystal â’u sesiynau ymarfer arferol yn y gampfa neu’r pwll nofio, mae cwsmeriaid wedi cael eu hannog i roi cynnig ar ddosbarthiadau Tai Chi, yoga a pilates.

Mae HSDd hefyd yn annog cwsmeriaid i gefnogi “Diwrnod Gwisgo Gwyrdd” ar ddydd Iau 18 Mai ac wedi goleuo Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, llochesi’r Promenâd a rhaeadr yr Arena Digwyddiadau yn wyrdd i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl .

Mae HSDd hefyd wedi bachu ar y cyfle i atgoffa staff o’r llefydd iawn i fynd am gymorth mewn argyfwng. Mae gan y cwmni ystod o systemau cymorth ar waith ar gyfer staff, gan gynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr sydd ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn ac sy’n gwbl gyfrinachol.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr ‘Yn HSDd, mae nifer o’n staff wedi’u hyfforddi’n Gymhorthion Cyntaf Iechyd Meddwl ac ar gael i gefnogi aelodau eraill o’n tîm mewn argyfwng lles. Rydym yn annog staff i gael cyngor ar iechyd meddwl, fel y byddent yn ei wneud gydag unrhyw salwch arall. Rydyn ni i gyd yn gwybod y gall rhai dyddiau fod yn anoddach nag eraill, ac rydyn ni eisiau’r gorau i’n tîm, sy’n golygu cynnig cymorth pryd bynnag maen nhw ei angen.’