Mae HSDdCyf yn cyhoeddi agor ail rownd cyllid ar gyfer clybiau a sefydliadau lleol
Bydd HSDd yn croesawu ail rownd o geisiadau gan glybiau a sefydliadau lleol ar gyfer Cynllun Grantiau Cymunedol i gefnogi gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol a chreadigol yn fuan.
Mae’r cwmni wedi derbyn £430,000 gan Gyngor Sir Ddinbych drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i weinyddu’r cynllun.
Bydd y grant yn rhoi cyfle i sefydliadau a chlybiau llai yn Sir Ddinbych ymgeisio am gyllid i gefnogi gweithgareddau megis perfformiadau cerddoriaeth a theatr, cyllid ar gyfer arddangosfeydd lleol a chefnogaeth ar gyfer rhaglenni allgymorth.
Gall sefydliadau elwa o gyllid cyfalaf a refeniw i ailwampio neu gynnal cyfleusterau chwaraeon presennol neu gefnogi cynghreiriau cymunedol neu leoliadau a gweithgareddau celfyddydol cymunedol. Croesawir ceisiadau ar gyfer cyllid o ddydd Llun, 22 Ionawr. Y dyddiad cau ar gyfer y rownd derfynol yw dydd Llun, 19 Chwefror.
Mae grwpiau chwaraeon gwirfoddol a chymunedol, sefydliadau cymunedol a chlybiau chwaraeon dielw, Cynghorau Plwyf a Thref, elusennau sy’n darparu gwasanaethau a chymorth lleol (gan gynnwys grwpiau lifrai) ac ysgolion a sefydliadau addysg yn gymwys i wneud cais.
I fod yn gymwys mae’n rhaid ichi ddangos sut fydd y prosiect yn cefnogi un o amcanion canlynol y Gronfa Ffyniant Gyffredin:
- Cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau creadigol, treftadaeth, diwylliannol a chelfyddydau lleol.
- Cyllid ar gyfer cyfleusterau chwaraeon, twrnameintiau, timau a chynghreiriau lleol; i ddod â phobl at ei gilydd.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd “Mae’r panel yn adolygu’r rownd gyntaf o’r ceisiadau ar hyn o bryd, ond rydym yn falch o gyhoeddi y bydd yr ail rownd yn agor ar 22 Ionawr, gydag arian cyfalaf a refeniw ar gael. Mae HSDd yn parhau i ymrwymo i gefnogi cymunedau lleol, ac rydym yn gwybod y bydd y cynllun hwn yn cael effaith mawr, yn arbennig o ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Mae Cymuned yn un o bileri’r cwmni, ac mae helpu i gynnal cyfranogiad cymunedol ac isadeiledd clybiau’n parhau i fod yn flaenoriaeth i HSDd. Gyda chyllid gan Lywodraeth y DU a chefnogaeth CSDd, bydd y grant yn galluogi HSDd i helpu i gynnal grwpiau trydydd sector, chwaraeon a sefydliadau diwylliannol.”
Mae grantiau cyfalaf rhwng £2,000 ac £20,000 a grant refeniw rhwng £500 a £20,000 ar gael. NI CHAIFF CYFANSWM y cais, fodd bynnag, fod yn FWY NAG £20,000.
Gallwch wneud cais ar-lein drwy lawrlwytho ffurflen gais o’r wefan. Bydd angen dychwelyd y ffurflen wedyn i cymunedaubywiog@hamddensirddinbych.co.uk neu drwy’r post i’r Tîm Cymunedau Bywiog, Hamdden Sir Ddinbych, 8-11 Trem y Dyffryn, Stad Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych LL16 5TX.
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys telerau ac amodau llawn y grant, ymwelwch â’n gwefan https://denbighshireleisure.co.uk/cy/dll-community-grant-scheme-2/
Roedd HSDd hefyd wedi llwyddo i dderbyn arian drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddarparu rhaglen Celfyddydau Creadigol. Bydd y Rhaglen Celfyddydau Creadigol yn gweithio â phartneriaid trydydd sector allweddol a phartneriaid cymunedol ac iechyd i ddarparu rhaglen gyfranogol y celfyddydau mewn iechyd a lles, mewn lleoliadau cymunedol, gofal cymdeithasol ac iechyd. Cyfanswm y cyllid a dderbyniwyd gan HSDd ar gyfer y ddau brosiect oedd £584,000.
Nodiadau i Olygyddion: Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy