Roedd Hosbis Sant Cyndeyrn yn hapus iawn i dderbyn rhodd elusennol o deganau gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf, yn dilyn eu hymgyrch ‘Rhagffit’ diweddar, pan roddodd aelodau ffitrwydd deganau i’r elusen.

Anogodd clybiau HSDdCyf a safleoedd hamdden eu haelodau i gyfrannu trwy gydol mis Rhagfyr gyda chanlyniadau gwych.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDdCyf “Rydym wedi plesio’n fawr gyda llwyddiant ein hymgyrch ‘Rhagffit’ Rhagfyr ac yn hynod ddiolchgar am yr holl roddion a ddarparwyd gan ein haelodau a diolch arbennig i’n holl staff a fu’n helpu i drefnu’r ymgyrch hon. Mae’n galonogol gweld y fath haelioni, a gwybod y bydd y plant yn derbyn anrhegion hyfryd y Nadolig hwn”.

Dywedodd Codwr Arian Corfforaethol Sant Cyndeyrn,  Alwyn Mason: “Rydym yn dymuno mynegi ein diolch o waelod calon i bawb a gymerodd ran yn ymgyrch ‘Rhagffit’ Hamdden Sir Ddinbych i roi teganau plant i Hosbis Sant Cyndeyrn. Roedd pawb yn yr hosbis wedi’u syfrdanu gan y caredigrwydd a ddangoswyd ac mae’r anrhegion yn sicr o ddod â llawenydd a chysur arbennig i blant sy’n gorfod defnyddio’r hosbis mewn amgylchiadau anodd iawn.”