Mae Clwb Nova, y clwb ffitrwydd premiwm ym Mhrestatyn yn cymryd aelodau i’r lefel nesaf gyda bar a lolfa unigryw newydd yn arbennig i aelodau.

Gydag amrywiaeth bendigedig o goffi Costa, sudd ffrwythau ac ysgytlaeth protein blasus, mae aelodau yn cael y cynnig o ardal unigryw i ail-lenwi ac adnewyddu ar ôl ymarfer o Ddydd Llun, 11fed o Hydref.

Mae Clwb Nova yn glwb ffitrwydd premiwm, gydag offer ffitrwydd arbennig Technogym sydd yn unigryw i Hamdden Sir Ddinbych Cyf, a’r rhaglenni Excite newydd. Yn ogystal â hyn mae parth cryfder, rig wedi’i stocio’n llawn, cylchfa swyddogaethol a chlorian modern Tanita i helpu aelodau i gyrraedd eu nodau ffitrwydd.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi ymrwymo i ddarparu profiad o ansawdd uchel i aelodau. Mae gan Glwb Nova awyrgylch clwb arbennig ac mae ein hoffer ffitrwydd Technogym unigryw yn rhan bwysig o’r profiad premiwn hwn i gwsmeriaid. Yn wir arddull Hamdden Sir Ddinbych, rydym yn mynd yn groes i’r duedd ac yn buddsoddi yn ein cyfleusterau i roi’r profiad gorau posibl i’n haelodau pan maent yn dod yn ôl atom ni. “

Yn ogystal â’r ystafell ffitrwydd a’r bar clwb unigryw, mae stiwdio ffitrwydd Clwb Nova wedi’i uwchraddio i roi profiad gwell i aelodau, gan gynnwys goleuadau modern newydd, system sain ac addurniadau modern ar y waliau.

Ychwanegodd Jamie: “Clwb Nova yw’r lle i fod ar gyfer y profiad ffitrwydd llawn ar Arfordir Gogledd Cymru. Mae gennym ni newyddion mwy cyffrous yn dod eich ffordd yn fuan, cadwch lygad! ”

Am ragor o wybodaeth, ewch i denbighshireleisure.co.uk/club-nova