Mae X20 Hamdden Llanelwy yn dod yn lleoliad ffitrwydd rhagorol, gyda chyfarpar Technogym newydd sbon wedi’i osod a chynnig Coffi Costa newydd i bobl ail-lenwi ar ôl ymarfer.

Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn falch o gyhoeddi buddsoddiad pellach yn X20 Hamdden Llanelwy, gan gynnwys ystod o offer ymarfer corff Technogym ‘Excite’ newydd sbon yn yr ystafell ffitrwydd a’r ystafell Cryfder X20.

Bydd ystafell codi pwysau X20 hefyd yn cael offer newydd, a bydd ystod yr ystafell Ffitrwydd Cardio yn cael ei huwchraddio i ystod Excite Live. Mae’r ystod Excite yn galluogi’r rhai sy’n ymarfer i ymuno â dosbarthiadau ffitrwydd rhithiol ar bob peiriant unigol, bydd aelodau’n gallu ymarfer gyda hyfforddwr ffitrwydd rhithiol tra’n aros yn gysylltiedig, gan gysylltu â ffrindiau ar gyfryngau cymdeithasol neu wylio pennod o’u hoff gyfres Netflix.

Bydd man ymgynghori personol newydd yn cael ei osod a bydd y clwb cyfan yn cael ei ailfodelu a’i adnewyddu o’r dderbynfa. Mae clorian Tanita newydd hefyd yn cael ei gosod i helpu aelodau i gyrraedd eu nodau ffitrwydd trwy asesu pwysau corff, lefelau dŵr a llu o fesuriadau eraill.

Ar ben yr holl osodiadau ffitrwydd anhygoel, mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi’i phlesio o weithio gyda Costa Coffee eto ar safle arall, gydag ystod wych o ddiodydd bendigedig Costa a fydd ar gael o dderbynfa X20 Llanelwy.

Gyda’r lansiad ar Ddydd Sadwrn, 9fed Hydref, bydd ystod eang o Goffi Costa, diodydd oer, a byrbrydau oer. Os ydych unai eisiau ail-lenwi ar ôl ymarfer corff neu fachu coffi a byrbryd i’ch cadw’n gynnes wrth gefnogi eich tîm ar gae 3G Llanelwy, bydd y cyfan ar gael i  chi yn X20.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Yn Hamdden Sir Ddinbych rydym yn ymfalchïo mewn cynnig cyfleusterau hamdden o’r ansawdd uchaf ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein canolfannau i wella eich profiad gyda ni. Mae X20 Llanelwy yn gwasanaethu ar gyfer yr holl sesiynau ymarfer, o nerth i cardio a gyda’n stiwdio Beicio Grŵp Eithafol newydd, dyma’r lle gorau i fod ar gyfer ffitrwydd yn Llanelwy. Mae hyder Costa Coffee yn ein cyfleusterau yn wych ac ni allwn aros i ddod â diodydd a byrbrydau bendigedig i bawb sy’n defnyddio X20 Llanelwy. ”

Am ragor o wybodaeth, ewch i: denbighshireleisure.co.uk/leisurecentres