Mae allyriadau wedi gostwng mewn dau o safleoedd Hamdden Sir Ddinbych Cyf (HSDd) ar ôl i waith gwres carbon isel ac ynni adnewyddadwy gael ei gwblhau.

Mae Tîm Ynni Adain Eiddo Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i fynd ati i leihau ôl-droed carbon adeiladau’r Cyngor. Digwyddodd hyn ar ôl i’r Cyngor ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019 ac mae wedi ymrwymo i fod yn Gyngor Di-garbon Net ac Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2023.

Roedd yr ymrwymiad yma’n cynnwys lleihau allyriadau yr ystâd gyfan.

Gwnaed gwaith mewn partneriaeth gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf yng Nghanolfan Hamdden Huw Jones a Chanolfan Fowlio Gogledd Cymru sy’n cael eu rhedeg gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf, ac maent yn enghreifftiau diweddar o ymgyrch barhaus y Cyngor i leihau allyriadau carbon.

Gosodwyd system adfer gwres blaengar ynghyd â systemau pwll a gwres canolog a gafodd eu huwchraddio.

Roedd y gwaith a wnaed, oedd yn cynnwys gosod paneli solar PV a goleuadau LED y tu mewn a thu allan, yn golygu bod yr allyriadau carbon wedi gostwng bron 35%.

Mae gosod paneli Solar PV yng Nghanolfan Ryngwladol Fowlio Gogledd Cymru a Café 21 wedi helpu’r ganolfan i leihau allyriadau carbon dros 5 tunnell.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn parhau i weithio i leihau ein ôl-troed carbon ym mhob un o’n hadeiladau ac rydym ni’n ddiolchgar am waith Tîm Ynni yr Adain Eiddo.

“Mae’r gwaith yn y ddau safle sy’n cael eu rhedeg gan HSDd i leihau’r allyriadau hefyd yn helpu i greu amgylchedd mwy cyfforddus i staff a’r rhai sy’n ymweld ac yn defnyddio’r cyfleusterau. Rydym ni’n arbennig o falch o’n partneriaeth a’r cydweithio gyda HSDd i gyflwyno’r agenda pwysig yma.”

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, Jamie Groves: “Mae gennym ni ymrwymiad yn HSDd i helpu’r Cyngor i leihau’r ôl-troed carbon, ac rydym ni’n ddiolchgar iawn am y buddsoddiad i’r cyfleusterau. Mae ein Bwrdd neu Gyfarwyddwyr yn cydnabod y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy ddarparu ar y flaenoriaeth bwysig hon i’r Cyngor yn sgil natur ein busnes.”