Bydd Caffi R yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar agor yn hwyr am un noson arbennig Nos Sadwrn 12 Chwefror i ddathlu San Ffolant.

Hwn fydd yr agoriad noson hwyr cyntaf i Gaffi R gynnal ers iddo ailagor gyda gwedd a brand newydd ym mis Hydref 2021. Bydd y bwyty modern sydd wedi’i leoli o fewn muriau Canolfan Grefft Rhuthun ar agor fel arfer o 9am drwy’r dydd ond bydd yn croesawu gwesteion swper San Ffolant rhwng 5:30pm-8pm gyda gwydraid o prosecco wrth gyrraedd.

Y cerddor dawnus Jacob Elwy fydd yn diddanu wrth i westeion fwynhau pryd bwyd rhamantus; anogir gwesteion i archebu bwrdd ymlaen llaw i fwynhau’r fwydlen San Ffolant 3 chwrs arbennig a’r adloniant.

Mae’r Prif Gogydd newydd, Jamie Winning, wedi llunio bwydlen arbennig ar gyfer noson hwyr cyntaf y Bwyty, gan gynnwys Cacen bysgod eog Thai gyda salad roced, Stecen Rwmp Cymreig gyda sglodion cartref a Crème brulee siocled gwyn a Baileys. Gellir mwynhau tri chwrs am £49.90 y cwpl yn unig, gyda gwydraid o prosecco am ddim wrth gyrraedd.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf, Jamie Groves “Mae llawer o waith caled wedi’i rhoi fewn i greu’r bwyty Caffi R newydd a ail-agorodd ym mis Hydref 2021. Mae pob agwedd o’r Bwyty yn cynnig profiad bwyta o safon uchel a byddem wrth ein bodd i  gael preswylwyr a thrigolion yn ymweld â ni a ni yng Nghaffi R ar gyfer San Ffolant I gefnogi ein profiad cyntaf un o agor gyda’r nos. Ynghyd â’n Prif Gogydd newydd a’n tîm gwych yng Nghaffi R, rydym yn edrych ymlaen at gynnal noson wych gyda chefnogaeth cynnyrch lleol, a thalent leol yn perfformio. Bydd hwn yn flas o’r pethau sydd i ddod yng Nghaffi R wrth i ni adeiladu tuag at ein llefydd bwyta awyr agored newydd sydd i fod i gael eu cwblhau adeg y Pasg..

I gael fwy o wybodaeth neu i archebu bwrdd, ffoniwch Gaffi R ar 01824 708099 ar agor 9am-4pm Dydd Mawrth-Sul neu cysylltwch â Chaffi R yn uniongyrchol ar Facebook.