Mae dyddiad wedi’i osod i Bafiliwn Y Rhyl ailagor ei ddrysau ar ôl cyfnod o fod ar gau oherwydd difrod wedi’i achosi gan danc dŵr oedd wedi byrstio.

Cafodd y theatr eiconig yn Y Rhyl ei ddifrodi yn sylweddol yn ôl ym mis Gorffennaf, pan orlifodd llawer o rannau o’r adeilad. Er gwaetha’r cyfnod helaeth o sychu a’r holl waith adfer, mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi gwneud eu gorau glas i gael y lle yn rhedeg fel arfer eto.

Bydd y Theatr yn ailagor yn swyddogol ddiwedd y mis nesaf, pan ddaw’r digrifwr Jason Manford â’i daith Like Me i’r Rhyl Ddydd Sadwrn 27ain Tachwedd.

Disgwylir i’r gwaith adeiladu barhau hyd at benwythnos 27ain Tachwedd, gyda Jason Manford yn agor gyda’r sioe gyntaf. Yna bydd adeg panto yn gyflym yn cyrraedd, a bydd disgleirdeb y Nadolig yn yr awyr o 8fed Rhagfyr pan fydd perfformiad hudolus Sinderela yn camu i lwyfan y theatr!

Bydd y gwaith i adfer y theatr yn cael ei gwblhau mewn dau gam. Y cam cyntaf bydd adnewyddu’r ardaloedd llawr gwaelod yn llawn, gan gynnwys yr holl fariau ar y llawr gwaelod, y swyddfa docynnau a’r man ymgynnull, er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cael mynediad i’r awditoriwm ar gyfer y sioeau sydd i ddod a’r pantomeim eleni. Bydd yr ail gam yn adfer y lloriau uchaf ac yn adnewyddu bwyty 1891 ar ôl y difrod dŵr sylweddol.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Ar ôl yr hyn a fu’n flwyddyn anodd a dweud y lleiaf, rydym yn edrych ymlaen at ailagor y theatr ar gyfer perfformiad Jason Manford a hefyd i ddod â Panto yn ôl i Theatr y Pafiliwn Y Rhyl. Mae’n wych gweld perfformwyr yn ôl yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau ar ôl cyfnod mor heriol, ac ni allwn aros i groesawu ysgolion a theuluoedd yn ôl trwy ddrysau’r awditoriwm ac i brofi awyrgylch trydanol Theatr y Pafiliwn eto.

“Mae gwaith hefyd yn dod yn ei flaen i adfer ein bwyty blaenllaw 1891. Mae’r gwaith i’r ardal hon yn eithaf sylweddol ac er ein bod wedi bod yn gweithio yn drwyadl gyda chwmnïau yswiriant a syrfewyr arbenigol, yn anffodus bydd yn cymryd ychydig mwy o amser i gwblhau adnewyddu’r bwyty, ond nid oes amheuaeth gennym y bydd y bwyty newydd yn ysblennydd ar ôl gorffen ac ni allwn aros i arddangos ein cynlluniau o fewn yr wythnosau nesaf.”