Mae’r Caffi R ar ei newydd wedd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun yn dod â phrofiad bwyta awyr agored cyffrous i’r dref y Gwanwyn hwn.

Yn dilyn ail-lansiad llwyddiannus y caffi llynedd, ciniawa Al-fresco yw’r cam nesaf wrth fynd cymryd adnewyddiad Caffi R i’r lefel nesaf.

Gydag awyrgylch cyfeillgar, amrywiaeth o fwyd bendigedig a bwyty cyfeillgar i deuluoedd (gan gynnwys y ci!), mae Caffi R yn blaguro fel y lle i giniawa yn Rhuthun.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Ers ail-agor, rydym wedi bod wrth ein bodd gyda’r adborth gwych a dderbyniwyd ar gyfer Caffi R yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Mae poblogrwydd y caffi yn ffynnu, a gyda’r dyddiau’n mynd yn hirach a thywydd gwell ar y ffordd, bydd prosiect i ehangu’r caffi i gynnwys profiad bwyta awyr agored newydd yn dechrau’n fuan iawn. Bydd Caffi R yn le perffaith ar gyfer cinio hamddenol al fresco dros fisoedd yr haf, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid (dwy a phedair coes!) i’r datblygiad newydd gwych hwn.”

Bydd y pergola awyr agored newydd gyda goleuadau clasurol yn agor cynnig gyda’r nos i’r caffi, gydag oriau agor estynedig unwaith y bydd y tywydd yn cynhesu.

Bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn canol mis Mawrth a bydd y Caffi y tu mewn yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.denbighshireleisure.co.uk/caffi-r