Mae’r Rhyl yn paratoi ar gyfer penwythnos mawreddog o ddathliadau i groesawu tymor yr Ŵyl fis nesaf. Bydd goleuadau Nadolig y Rhyl yn cael eu troi ymlaen ddydd Sadwrn 25 Tachwedd ac mae cyngerdd Pop Nadolig wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sul 26 Tachwedd.

Bydd y digwyddiad blynyddol o droi’r goleuadau Nadolig ymlaen yn dechrau’r penwythnos mewn steil ar Stryd Fawr y Rhyl, rhwng 2pm a 5pm. Bydd DJ Paul Crawford yn chwarae’r ffefrynnau Nadoligaidd i gyd ac yn chwarae gemau ochr yn ochr â dawnswyr ar thema, peintiwr wynebau, modelwr balŵns, Robot 9 troedfedd sy’n goleuo a diddanwr stryd ar thema a fydd hefyd yn ymuno yn yr hwyl.

Bydd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Jacquie McAlpine, yn ymuno â chast pantomeim ‘Jack and the Beanstalk’, sy’n llawn sêr, i oleuo’r dref. Mae aelodau’r cast yn cynnwys y seren bop Chico, sy’n enwog am ei gân ‘Chico Time’ a gyrhaeddodd rif un yn siartiau’r DU, yr actor Arthur Bostrom o ‘Allo ‘Allo!, seren y rhaglen Casualty Amanda Henderson, yr actor Graham Cole o The Bill, Jamie a Chuck a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent a’r actores Amy-Jane Ollies o Hollyoaks.

Mae’r dathliadau’n parhau ddydd Sul wrth i Gyngerdd Pop Nadolig rhad ac am ddim y Rhyl gael ei gynnal yn Theatr Pafiliwn y Rhyl, sy’n cynnwys rhestr wych o artistiaid. Bydd y bobl sy’n bresennol yn cael y pleser o wrando ar ganeuon gorau Motown gyda Jackie Marie, ychydig bach o ganu gwlad gyda Peter McKeown a cherddoriaeth fywiog y Band Teyrnged Ska 8 aelod, Ska Britannia. Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn ffordd berffaith o groesawu tymor yr Ŵyl yn swyddogol yn y Rhyl. Mae tocynnau ar gael yn rhad ac am ddim i’w harchebu drwy ffonio Swyddfa Docynnau Pafiliwn y Rhyl ar 01745 330000 ac ni chaiff pob cartref archebu mwy na phedwar tocyn yr un. Bydd drysau’n agor o 4pm er mwyn rhoi cyfle i unigolion sy’n dod i’r cyngerdd brynu diod cyn i’r cyngerdd ddechrau am 5pm.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym ni’n falch iawn ein bod ni’n cydweithio â Chyngor Tref y Rhyl i gynnal penwythnos o adloniant yn rhad ac am ddim i deuluoedd yn y Rhyl! Mae dod â’n cymuned ni at ei gilydd yn hynod o bwysig, yn enwedig yn ystod y tymor yr Ŵyl, a hynny’n rhad ac am ddim! Pa ffordd well o fwynhau’r cyfnod sy’n arwain at y Nadolig na gyda’r teulu i gyd, yn gwylio’r goleuadau Nadolig yn cael eu troi ymlaen ar y dydd Sadwrn ac yn gwrando ar gerddoriaeth Nadoligaidd yng Nghyngerdd Pop Nadolig ar y dydd Sul!”

Dywedodd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Ms Jacquie McAlpine: “Mae troi Goleuadau Nadolig y Rhyl ymlaen unwaith eto yn croesawu tymor yr Ŵyl ac yn darparu adloniant gwych yn rhad ac am ddim yn yr awyr agored i bawb ei fwynhau.  Bydd y penwythnos yn un arbennig iawn sy’n cynnwys rhestr wych o enwau mawr y byd teledu, perfformwyr stryd a cherddoriaeth i lansio goleuo canol y dref. Mae Cyngor Tref y Rhyl yn falch o gynorthwyo i ariannu’r digwyddiad cymunedol hwn ac eleni mae’n lansio set newydd sbon o oleuadau. Dewch draw i ymuno â’r dathliadau a’r arddangosfa o oleuadau i chi gael bod yn rhan o hwyl yr Ŵyl. Mae’r noson hynod o boblogaidd hon o gerddoriaeth eiconig yn dychwelyd yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.  Yn yr un modd â’r blynyddoedd cynt, mae Cyngor Tref y Rhyl yn ymrwymedig ac yn falch iawn o roi cymorth ariannol i Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ar gyfer y noson wych hon o adloniant.  Mae’r amrywiaeth o artistiaid a fydd yn perfformio yn sicr o ddarparu noson fyrlymus a chofiadwy o adloniant i bawb sydd yno.”