Mae Sioe Awyr y Rhyl yn ôl yr haf hwn gyda rhaglen arbennig, gan gynnwys perfformwyr o safon fyd-eang yn ystod deuddydd Gŵyl y Banc mis Awst.

Am y tro cyntaf yn hanes Sioe Awyr y Rhyl, mae’r Saethau Cochion a’r Typhoon wedi cadarnhau arddangosiadau awyr ar gyfer 27ain a’r 28ain o Awst.

Mae’r sioe awyr arobryn yn gyflym yn dod yn ddigwyddiad glan môr AM DDIM mwyaf Gogledd Cymru a bydd sioe 2022 yn cynnwys arddangosfeydd awyr ysblennydd ac atyniadau ac adloniant ar y tir.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, yn gyffrous dros ben am ddod â Sioe Awyr y Rhyl sydd bellach yn ‘enwog yn y DU’ yn ôl. Mae sioe Awyr y Rhyl yn cael ei hystyried yn un o’r digwyddiadau mwyaf trawiadol ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Mae Canol Tref y Rhyl a’r Arena Digwyddiadau bob amser yn fwrlwm o gyffro, ac mae’r cyfle o gael y Saethau Cochion a’r Typhoon dros y ddau ddiwrnod yn anhygoel! Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr a phobl leol i’r Rhyl ac arfordir Sir Ddinbych i fwynhau’r sioe anhygoel hon.”

Bydd y Sioe Awyr yn cael ei chynnal dros Ŵyl y Banc, 28 a 29 Awst, gyda mwy o fanylion i ddilyn am y digwyddiad maes o law. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen we swyddogol denbighshireleisure.co.uk/RhylAirShow a tudalen Facebook Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

Dywedodd Graham Boase, Prif Weithredwr Sir Ddinbych: “Mae’r digwyddiad mawr hwn yn rhoi hwb sylweddol i economi’r Rhyl a chymunedau ehangach bob tro y caiff ei lwyfannu ac mae’r rhaglen ar gyfer eleni yn wirioneddol anhygoel. Mae gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf hanes da o gynnal digwyddiadau mor fawreddog ag rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â nhw i gyflwyno’r hyn a fydd yn denu tyrfaoedd mawr yn y calendr digwyddiadau. Mae ei phoblogrwydd wedi tyfu dros y blynyddoedd ac mae’r Sioe Awyr yn enwog ar draws y DU cyfan fel un o’r digwyddiadau mwyaf arbennig o’i fath. Ni fydd ymwelwyr y Sioe Awyr yn cael eu siomi”.

Mae’r Lancaster, Tîm Arddangos Grob Tutor a dau Spitfire hefyd wedi’u cadarnhau ar gyfer y ddau ddiwrnod, gan sicrhau dwbl y cyffro ar hyd y penwythnos cyfan.

Mae Tîm Erobatig yr Awyrlu Brenhinol, y Saethau Cochion, yn un o brif dimau arddangos erobatig y byd. Gan gynrychioli cyflymder, ystwythder a manwl gywirdeb yr Awyrlu Brenhinol, y tîm yw wyneb cyhoeddus y gwasanaeth. Yn hedfan awyrennau cyflym Hawk nodedig, mae’r tîm yn cynnwys peilotiaid, peirianwyr a staff cymorth hanfodol sydd â phrofiad gweithredol rheng flaen. Yn aml gyda’u siâp Diemwnt Naw nod masnach, a chyfuniad o ffurfiannau agos a hedfan manwl gywir, mae’r Saethau Cochion wedi bod yn arddangos ers 1965.

Mae misoedd o waith caled yn mynd fewn i arddangosfa Typhoon, gyda’r holl baratoi manwl ac ymdrech ar y cyd gan y tîm y tu ôl i’r llen. Er mai’r peilot sy’n arddangos yr awyren, ni all y peilot wneud ei rôl heb ymrwymiad a chefnogaeth ddi-baid y grŵp ymroddedig o weithwyr proffesiynol sy’n rhan o’r Tîm Arddangos Typhoon. Mae tîm eleni o Sgwadron 29 yn cynnwys arbenigwyr o bob masnach awyren sydd, ynghyd â thimau cefnogi a rheoli, yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â’r olygfa ddisglair i chi sef yr Arddangosfa Typhoon. Mae’r tîm yn edrych ymlaen at yr heriau unigryw a ddaw yn sgil tymor arddangos a’r cyfle i arddangos awyrennau Typhoon yr Awyrlu Brenhinol i’r cyhoedd.

Cenhadaeth BBMF y Llu Awyr Brenhinol yw cynnal arteffactau amhrisiadwy ein treftadaeth genedlaethol mewn cyflwr addas i’r awyr er mwyn coffau’r rhai sydd wedi ildio yn eu gwasanaeth i’r wlad. Mae’r RAF BBMF hefyd yn hyrwyddo’r Awyrlu modern ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Mae The Flight yn gweithredu chwe Spitfire, dau Hurricane, a Lancaster ac mae’r awyrennau’n cael eu hedfan gan griw awyr yr Awyrlu Brenhinol.

Cafodd y Grob 115E, a adnabyddir fel y Tutor T Mark 1 yng ngwasanaeth yr Awyrlu, ei adeiladu a’i gyfarparu’n arbennig ar gyfer yr Awyrlu Brenhinol yn Mattsies, yr Almaen rhwng 1999 a 2002. Yn wreiddiol fe wnaeth arfogi Ysgol Hyfforddi Hedfan Elfennol Rhif 1, cyn disodli’r Bulldog T1 oedd mewn gwasanaeth gyda Sgwadronau Awyr Prifysgol yr Awyrlu Brenhinol a Phrofiad Hedfan Awyr.