Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cynnig gostyngiadau arbennig i breswylwyr lleol gael mwynhau SC2 yr hydref hwn.

Wedi cyfnod gwyliau prysur a llwyddiannus eto yn SC2 y Rhyl, mae Hamdden Sir Ddinbych yn lansio ystod newydd sbon o gynigion wedi eu cynllunio’n arbennig ar gyfer preswylwyr.

Mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, mae Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig yn awyddus i ddangos eu hymrwymiad i gwsmeriaid lleol sy’n cefnogi’r cwmni drwy gydol y flwyddyn – nid yn ystod cyfnod y gwyliau’n unig.

Mae SC2 y Rhyl yn cynnig amrywiaeth ardderchog o hwyl i’r teulu, ac mae’r ystod yma o gynigion newydd yn canolbwyntio ar eu hardal Chwarae Antur newydd sbon sydd ar thema dinosoriaid, a’r arena dan do aml-lefel hynod boblogaidd TAG Ninja, sydd wedi ei hymestyn yn ddiweddar. 

Bydd y ddau’n cynnig:

*Gostyngiad ardderchog o 50% i oedolion a phlant ar ddyddiau Mawrth yn TAG Ninja.

*Bydd y plant ieuengaf yn gallu archwilio a mwynhau’r ardal Chwarae Antur am £1 yn unig ar ddydd Gwener, os prynir pryd o fwyd plentyn ym Mwyty Coedwig Law neu’r Caffi Chwarae Antur.

*Gall oedolion a phlant iau fwynhau cynnig TAG a Bwyta ar ddydd Gwener. 

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig: “Rydym wrth ein boddau efo’r adborth mae SC2 wedi ei gael gan ein cwsmeriaid dros yr haf, ac mae’n eglur bod pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd wedi creu atgofion arbennig gyda ni eleni!  Oherwydd poblogrwydd y Rhyl fel cyrchfan, rydym yn deall ei bod weithiau’n anodd i bobl leol ddefnyddio cyfleusterau ar garreg eu drws, ac felly roeddem eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol a diolch i’r trigolion am eu ffyddlondeb a’u cefnogaeth gydol y flwyddyn.  Mae llawer o feddwl wedi mynd i’r cynigion gwych yma, ac rydym wedi gwneud ein gorau i sicrhau eu bod yn fforddiadwy i bawb ar amser mor anodd.”