Richard Hawley sy’n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Johnny Connor, Rheolwr Underworld a Landlord Rovers Return, yn opera sebon Coronation Street fydd yn ymuno ag aelodau’r cast a gyhoeddwyd eisioes, Jake Canuso (Benidorm) a Lottie Henshall (Coronation Street) fel Abanazar ac Ysbryd y Fodrwy yn y drefn honno.

Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl dwy awr a phymtheg munud o ganu a dawnsio difyr, gwisgoedd lliwgar, setiau ffantastig ac effeithiau arbennig bendigedig i gyd wedi’u lapio mewn i sgript ddoniol.

Mae’r sioe yn agor ar 10 Rhagfyr 2022 ac yn rhedeg tan 31 Rhagfyr 2022 a bydd yn cael ei chyfarwyddo gan Lizzie Frances, gyda choreograffi Beth Portman a’i gyfarwyddo’n gerddorol gan Anthony John Quimby, gyda goruchwyliaeth gerddorol Ashley Walsh.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Rydym wrth ein bodd yn gweithio ar y cyd â chynyrchiadau Anton Benson ar gyfer y panto Nadolig eleni. Mae ein tîm technegol yn gweithio’n galed iawn i wneud i’n hawditoriwm deimlo fel lle hudolus i deuluoedd yn ystod y Nadolig, ac eleni rydym yn gyffrous i gael ein panto Nadolig yn ôl yn ei anterth, heb boeni am gyfyngiadau. Rydyn ni eisiau i bawb gael Nadolig hudolus ac rydyn ni’n cynnal nosweithiau parti Nadolig yn 1891 a’n parti Nos Galan cyntaf erioed hefyd! 1891 yw’r lle i fod yr Hydref hwn, gyda’n Nosweithiau Gril blasus, nosweithiau Pizza a Thapas; a chiniawa cyn theatr; ynghyd â llu o nosweithiau adloniant a phartis ar y gweill. Gwnewch atgofion gyda ni’r hydref hwn!”

Bydd Jake Canuso, sydd fwyaf enwog am ei rôl fel gweinydd o Sbaen Mateo yn y gyfres gomedi llwyddiannus Benidorm ar ITV, yn serennu fel yr Abanazar drygionus.

Yn ei gynorthwyo fel Ysbryd y Fodrwy mae Lottie Henshall, sydd fwyaf enwog am ei rôl fel merch John Stape, Jade Rowan yn Coronation Street. Mae Lottie hefyd wedi teithio yn y cynhyrchiad rhyngwladol o’r ffilm boblogaidd Mamma Mia, fel prif ran Sophie.

Yr actor Richard Hawley, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Johnny Connor, Rheolwr Underworld a Landlord Rovers yn Coronation Street yw’r diweddaraf i ymuno â chast Aladdin fel Ymerawdwr No Peking! Mae Richard hefyd yn adnabyddus am ei rolau yn Family Affairs, Prime Suspect a’r ffilm boblogaidd Love Actually.

Bydd cast cefnogol llawn, gan gynnwys castio sêr pellach, yn cael eu cyhoeddi gan Anton Benson Productions yn yr wythnosau nesaf ochr yn ochr â’r tîm creadigol a’r cerddorion a fydd yn rhan o’r band byw.

Meddai’r cynhyrchydd Anton Benson “Rydym wedi bod yn gweithio gyda Theatr Pafiliwn y Rhyl ar brosiectau ers 2016, gan gynnwys ffilmio ein panto ar-lein 2020 yn ystod y pandemig, ac felly mae’n anrhydedd ac yn fraint cael ein gwahodd i gynhyrchu eu panto Nadolig. Rwyf wedi gweld sawl sioe Nadolig ym Mhafiliwn y Rhyl a gwn gymaint mae’r cynulleidfaoedd lleol wrth eu bodd â’u panto. Rwy’n edrych ar y cynhyrchwyr panto blaenorol y mae Pafiliwn y Rhyl wedi gweithio gyda nhw ac rwy’n gwybod y safon rydyn ni’n anelu at ragori arni.”

Archebwch eich tocynnau ar-lein nawr i sicrhau’r seddi gorau: www.rhylpavilion.co.uk/events_list/aladdin/

neu ffoniwch Swyddfa Docynnau Theatr Pafiliwn y Rhyl ar 01745 330000