Mae seren Benidorm Jake Canuso ac actor Coronation Street Lottie Henshall wedi ei gadarnhau ar gyfer eu rhannau ym mhanto Nadolig Theatr Pafiliwn y Rhyl Nadolig yma!

Bydd Jake Canuso, sydd fwyaf enwog am ei rôl fel gweinydd Sbaeneg Mateo yn y gyfres gomedi boblogaidd Benidorm ar ITV, yn serennu fel yr Abanazar drygionus. Yn ei gynorthwyo fel Ysbryd y Fodrwy mae Lottie Henshall, sydd fwyaf enwog am ei rôl fel merch John Stape, Jade Rowan yn Coronation Street. Mae Lottie hefyd wedi teithio yn y cynhyrchiad rhyngwladol o’r ffilm boblogaidd Mamma Mia, gan gwmpasu prif ran Sophie.
Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl dwy awr a phymtheg munud o ganu a dawnsio, gwisgoedd lliwgar, setiau ffantastig ac effeithiau arbennig bendigedig i gyd wedi’u lapio mewn sgript difyr.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Rydym yn falch iawn o cael gweithio ar y cyd gyda cwmni cynhyrchiadau Anton Benson ar gyfer y panto Nadolig eleni. Mae ein tîm technegol yn gweithio’n galed iawn i wneud i’n awditoriwm deimlo fel lle hudolus i deuluoedd yn ystod tymor y Nadolig, ac eleni rydym yn gyffrous i gael ein panto Nadolig yn ôl yn ei anterth, heb orfod poeni am gyfyngiadau.”
Bydd cast cefnogol llawn, gan gynnwys fwy o ser adnnabyddus a fydd yn cael eu cyhoeddi gan Anton Benson Productions yn yr wythnosau nesaf ochr yn ochr â’r tîm creadigol a’r cerddorion a fydd yn rhan o’r band byw.
Meddai’r cynhyrchydd Anton Benson “Rydym wedi bod yn gweithio gyda Theatr Pafiliwn y Rhyl ar brosiectau ers 2016, gan gynnwys ffilmio ein panto ar-lein 2020 yn ystod y pandemig, ac felly mae’n anrhydedd ac yn fraint cael ein gwahodd i gynhyrchu eu panto Nadolig. Rwyf wedi gweld sawl sioe Nadolig ym Mhafiliwn y Rhyl a gwn gymaint mae’r cynulleidfaoedd lleol wrth eu bodd â’u panto. Rwy’n edrych ar y cynhyrchwyr panto blaenorol y mae Pafiliwn y Rhyl wedi gweithio gyda nhw ac rwy’n gwybod y safon rydyn ni’n anelu at ragori arni.”
Er gwaethaf y cynllun gwreiddiol i arddangos Peter Pan yn Theatr Pafiliwn y Rhyl, mae bellach wedi’i gadarnhau y bydd y panto Nadolig eleni yn seiliedig ar chwedl glasurol Aladdin.
Archebwch eich tocynnau ar-lein nawr i sicrhau’r seddi gorau: https://www.rhylpavilion.co.uk/panto  neu ffoniwch swyddfa docynnau Theatr Pafiliwn y Rhyl ar 01745 330000
 
Os ydych wedi archebu tocynnau ar gyfer Peter Pan eisoes, byddwn yn trosglwyddo eich tocynnau i’r sioe newydd ar yr un diwrnod ac amser â’ch archeb wreiddiol yn awtomatig. Byddwn yn anfon eich tocynnau newydd atoch yn y cyfamser. Os hoffech newid neu ganslo eich archeb wreiddiol, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01745 330000 neu e-bostiwch box.office@hamddensirddinbych.co.uk