Mae Sioe Awyr arobryn y Rhyl yn cymryd hoi eleni, yn dilyn cyhoeddiad taith ryngwladol pen-blwydd tymor y Saethau Cochion yn 60 yr haf hwn.

Mae’r Saethau Cochion wedi bod yn rhan annatod o’r sioeau yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’r penderfyniad wedi ei wneud i beidio â chynnal y sioe yn 2024 hebddynt.

Mae’r newyddion hyn yn dilyn amryw o sioeau awyr eraill ar draws y DU yn penderfynu peidio â chynnal eu sioe eleni oherwydd bod y Saethau Cochion dramor ar gyfer yr Haf.

Dywedodd Graham Boase, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn deall y bydd y penderfyniad yn siom i’r rhai sy’n mynychu’r Sioe Awyr yn rheolaidd, a hefyd i fusnesau lleol. Rydym yn llwyr werthfawrogi effaith economaidd y digwyddiadau ar y Rhyl, ac fel cyngor rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda HSDd i adeiladu enw da’r dref fel cyrchfan ar gyfer digwyddiadau mawr. Byddwn yn gweithio gyda HSDd i chwilio am ddigwyddiadau amgen”

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd: “Gyda chalon drom yr ydym wedi penderfynu peidio â chynnal Sioe Awyr y Rhyl eleni. Mae’r Saethau Cochion wedi bod yn rhan annatod o raglen y Sioe Awyr dros nifer o flynyddoedd wrth arddangos diweddglo ysblennydd i’r sioe. Yn anffodus, rydym wedi cael gwybod y byddant i ffwrdd ar daith ryngwladol dros yr haf, ac na fyddant ar gael ar gyfer arddangosiadau yn y DU. Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae’r rhaglen eisoes wedi cael ei graffu, a chredwn na ellir disodli’r Saethau Cochion, a bydd colli nhw yn sicr o arwain at feirniadaeth o’r Sioe Awyr. rydym wedi dod i’r casgliad y byddai’n amhosibl i HSDd gyflwyno sioe sy’n cyd-fynd â thraddodiad balch Sioe Awyr y Rhyl, sydd hefyd yn bodloni disgwyliadau’r cyhoedd, ond byddwn yn dod yn ôl yn 2025 yn gryfach.”

Mae HSDd wedi ymrwymo i sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr yn cael haf i’w gofio, ac yn cynnal llu o ddigwyddiadau am ddim i deuluoedd ar draws yr arfordir yr haf hwn.

O bartïon Ibiza yn y Cwt Traeth, i nosweithiau DJ  ar y Teras a diwrnodau hwyl i’r teulu ym Mwyty 1891, nosweithiau acwstig, partïon 80’au a Northern Soul, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Denbighshireleisure.co.uk a thrwy eu sianeli cyfryngau cymdeithasol.