Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn annog pobl i ‘garu’r hyn rydych chi’n ei wneud’ gyda dros 40 o rolau i recriwtio ar draws y sir.

O achubwyr bywyd i staff bar a rheolwyr clwb ffitrwydd, i gynorthwyydd cyfrifon cyllid, gwestai gwasanaethau Nova a gwesteiwr Ninja TAG yn SC2, mae Hamdden Sir Ddinbych yn edrych i ehangu ei weithlu ar draws atyniadau, bwytai a safleoedd hamdden, i gyd-fynd ag anghenion y busnes cynyddol.

Mae’r slogan ‘Caru’r hyn ti’n wneud’ yn pwysleisio’r pwysigrwydd y mae Hamdden Sir Ddinbych yn ei roi ar weithwyr yn mwynhau eu rôl, a bod gweithio i’r cwmni yn ‘fwy na swydd yn unig’. Dechreuodd yr ymgyrch recriwtio hon yn y Flwyddyn Newydd ac mae llawer o’r rolau bellach yn fyw ar wefan y cwmni.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Rydym wrth ein bodd yn dod â mwy o gyfleoedd cyflogaeth i’r sir, gyda swyddi ar gael ar draws ein gwasanaethau. Yn Hamdden Sir Ddinbych, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn a chefnogi ein pobl ac er mwyn cynnal ein safonau uchel a gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol, rydym yn teimlo ei bod yn bwysig i’n gweithwyr garu’r hyn y maent yn ei wneud.”

Am fwy o wybodaeth a sut i wneud cais, ewch i: denbighshireleisure.co.uk/cy/gyrfaoedd.