Ymgasglodd torfeydd ar hyd yr arfordir i wylio Sioe Awyr arobryn y Rhyl gyda dros gan fil o bobl yn mynychu’r ddau ddiwrnod dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Roedd arddangosfeydd erobatig syfrdanol, pentref milwrol cyffrous a phenwythnos o hwyl i’r teulu ar hyd yr arfordir, ymhlith rhai o uchafbwyntiau eleni.

Gorffennodd y Saethau Cochion y sioe ar y ddau ddiwrnod, gan esgyn i’r awyr uwchben yr Arena Ddigwyddiadau a syfrdanu’r torfeydd gyda’u harddangosfa ysblennydd. Gleidiodd y Fairey Swordish i’r awyr a phlesio’r torfeydd gyda’i arddangosiad. Rhuodd yr Harvard i’r golwg, a bu cymeradwyaeth mawr gan y dorf, a pherfformiodd y pâr Strikemaster rhaglen fentrus â’r dorf ar ymyl eu seddau. Perfformiodd The Starlings ar ddydd Sul gydag arddangosfa arbennig a chododd beilot y Calidus Autogyro ei fawd at y dorf o’r talwrn wrth iddo hedfan dros y torfeydd. Fe wnaeth Hediad Goffa Brwydr Prydain yr Awyrlu Brenhinol blesio’r torfeydd gydag arddangosfa wladgarol a’r Saethau Cochion oedd n gorffen y sioe gydag arddangosfa goch, gwyn a glas ysblennydd.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Chyngor Tref y Rhyl, wedi plesio’n fawr â’r nifer a ddaeth i Sioe Awyr y Rhyl sydd bellach yn ‘Adnabyddus yn y DU’. Mae wedi bod yn sioe anhygoel eto eleni, gyda sioe Awyr y Rhyl bellach yn cael ei hystyried yn un o’r digwyddiadau mwyaf trawiadol ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Mae Canol Tref y Rhyl a’r Arena Digwyddiadau bob amser yn fwrlwm o gyffro, ac roedd cael y Saethau Cochion, awyren goffa Brwydr Prydain a’r pâr Strikemaster dros y ddau ddiwrnod eleni, yn anhygoel i’w weld! Rydyn ni eisiau diolch i bawb am ddod i’r Rhyl a’r awyrgylch anhygoel, roedd yn wych gweld y promenâd cyfan yn llawn o bobl yn mwynhau’r sioe, Rydyn ni’n edrych ymlaen yn barod at y flwyddyn nesaf!”

Dywedodd Graham Boase, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r digwyddiad mawr hwn yn rhoi hwb sylweddol i economi’r Rhyl a chymunedau ehangach bob tro y caiff ei lwyfannu ac roedd y digwyddiad eleni yn wirioneddol anhygoel. Mae gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf hanes da o gynnal digwyddiadau mor fawreddog ag rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â nhw i gyflwyno’r hyn a dynnodd dorf fawr yn y calendr digwyddiadau. Mae ei phoblogrwydd wedi tyfu dros y blynyddoedd ac mae’r Sioe Awyr yn gwbl enwog ar draws y DU cyfan fel un o’r digwyddiadau mwyaf blaenllaw o’i fath. Rydym eisiau diolch i bawb a ddaeth i fwynhau’r arddangosfeydd ac am y derbyniad anhygoel dros y penwythnos”.

Dywedodd Maer Tref y Rhyl, y Cynghorydd Jacquie McAlpine: “Fe wnaethon ni fwynhau’r digwyddiad anhygoel hwn yn fawr ac eisiau diolch i Hamdden Sir Ddinbych Cyf a Chyngor Sir Ddinbych am ddigwyddiad o’r safon uchaf. Roedd yr arddangosfeydd yn wych ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl ar y prom yn y Rhyl yn mwynhau eu penwythnos gŵyl banc! Mae hwn yn ddigwyddiad gwych i’r Rhyl ac yn dod â miloedd o bobl i’r ardal bob blwyddyn.”