Mae grwpiau o bobl ifanc wedi bod yn dringo i do Pafiliwn Llangollen ac wedi fandaleiddio ardaloedd dan do ac awyr agored y lleoliad.

Hamdden Sir Ddinbych Cyf sy’n gweithredu Pafiliwn Llangollen ar ran Cyngor Sir Ddinbych, ac maent yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i ddal y rhai sy’n cymryd rhan, ynghanol pryderon diogelwch ac yn dilyn yr achosion torri i mewn ar y safle’r wythnos hon. Mae’r cwmni’n galw ar y gymuned leol i fod yn wyliadwrus ac yn annog eu pobl ifanc i barchu eu tref.

Ymhlith y digwyddiadau, mae grŵp o bobl ifanc wedi bod yn torri i mewn i’r adeilad, yn canu’r larymau diogelwch, yn fandaleiddio bolardiau a goleuadau, ac yn torri rhannau o’r babell yn yr arena. Mae un grŵp o bobl ifanc wedi cael eu ffilmio yn dringo ar ben y pafiliwn.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae hyn yn hynod o beryglus a byddem yn cynghori unrhyw un i feddwl ddwywaith cyn ceisio cael mynediad i unrhyw do adeilad cyhoeddus. Bydd hyn yn arwain at erlyniad a gallai arwain at anaf difrifol. Mae’r gwasanaethau brys dan ddigon o bwysau ar hyn o bryd ac mae hwn yn ymddygiad difeddwl a fydd yn darfod mewn trasiedi.

“Ni fyddwn yn sefyll am fandaliaeth o unrhyw fath i’n hadeiladau ac rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru i adnabod yr unigolion dan sylw. Mae Pafiliwn Llangollen yn lleoliad digwyddiadau eiconig sy’n dod â miloedd o bobl i’r sir bob blwyddyn. Mae gennym luniau CCTV a bydd y rhain yn cael ei ddarparu i’r heddlu i allu ymchwilio ymhellach. ”

Pafiliwn Llangollen yw cartref Gŵyl Gerdd Ryngwladol yr Eisteddfod sy’n dod â miloedd o ymwelwyr i’r dref a’r sir bob blwyddyn.

Anogir unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i rannu hyn gyda Heddlu Gogledd Cymru.