Sinema awyr agored rhad ac am ddim yn ‘llwyddiant ysgubol’ yn dilyn penwythnos llawn cyffro
Daeth miloedd o drigolion ac ymwelwyr i fwynhau’r sinema awyr agored rhad ac am ddim a gynhaliwyd yn Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf a Chyngor Tref y Rhyl y penwythnos diwethaf.
Dangoswyd pum ffilm eiconig yn ystod y penwythnos, sef Dirty Dancing, The Greatest Showman, Mamma Mia, Moana 2 a’r hen ffefryn, Grease, gyda bron i 5,000 o docynnau’n cael eu rhannu am ddim i’r gymuned. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf ar y cyd â Chyngor Tref y Rhyl.
Heidiodd miloedd o bobl draw i fwynhau’r ffilmiau gyda’u cadeiriau campio, eu blancedi a’u hegni anhygoel, a chafwyd cyd-ganu a naws hwyliog drwy gydol y penwythnos. Gyda pherfformwyr ar stiltiau, dawnswyr, caban hun-luniau, artist balŵns a pheintiwr wynebau, roedd hwyl i’w gael i’r teulu cyfan.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym ni wedi cael penwythnos anhygoel yn dod â’r sinema awyr agored rhad ac am ddim i’r Rhyl – rhywbeth na welsom ni erioed o’r blaen yn ein tref ni. Bu i ni addo Haf i’w gofio i Sir Ddinbych, a dyma un yn unig o’r digwyddiadau rhad ac am ddim rydym ni wedi’u cynnal eleni ar gyfer y gymuned leol!”
Meddai’r Maer, y Cynghorydd Alexander Walker: “O linell anfarwol Dirty Dancing, ‘nobody puts baby in the corner’ i anthem enwog ‘Grease is the word’, yr arena ddigwyddiadau oedd y lle i ddod i wylio a mwynhau rhai o atgofion clasurol y sinema. Roedd yn bleser gan Gyngor Tref y Rhyl gydweithio â Hamdden Sir Ddinbych Cyf i gynnal yr ŵyl ffilmiau hon dros benwythnos gŵyl y banc, gan ddangos ambell i ffefryn teuluol a rhywbeth i bawb o bob oed. Y sinema awyr agored oedd y ffordd berffaith i ffarwelio â’r haf.”