Gwnewch les i’ch hunain y Gaeaf hwn gyda Hamdden Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru
Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cynnal miloedd o weithgareddau am ddim i deuluoedd y gaeaf hwn i gadw’n heini a chael hwyl mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn Haf o Hwyl llwyddiannus, mae’r Gaeaf o Lesiant yn cychwyn y mis hwn ar draws y sir gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, i roi tocynnau am ddim i’r gymuned i atyniadau Hamdden Sir Ddinbych a safleoedd hamdden.
Bydd miloedd o docynnau am ddim ar gael i’r cyhoedd, gan gynnwys tocynnau Ninja TAG am ddim, tocynnau i weithgareddau SportZone yn Rhuthun, Dinbych a’r Rhyl, tocynnau i chwarae yn Chwarae Antur Nova a Chwarae Antur SC2, yn ogystal â Chwarare Meddal yn Llangollen, Rhuthun a’r Rhyl, a llawer mwy o weithgareddau’n cael eu cynnig, gan gynnwys llogi cyrtiau badminton am ddim i deuluoedd a sesiynau Learn2Ride.
Gellir archebu gweithgareddau trwy gysylltu’r safleoedd, cliciwch isod i archebu Chwarae Antur SC2 a Ninja TAG ar-lein
Gellir archebu gweddill y gweithgareddau trwy’r safleoedd yn uniongyrchol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r safle perthnasol.
Mae pob gweithgaredd yn amodol ar argaeledd ac mae tocynnau am ddim yn gyfyngedig.
Am fwy o fanylion, cysylltwch: ActiveCommunities@denbighshireleisure.co.uk