Gwnewch les i’ch hunain y Gaeaf hwn gyda Hamdden Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru


Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cynnal miloedd o weithgareddau am ddim i deuluoedd y gaeaf hwn i gadw’n heini a chael hwyl mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn Haf o Hwyl llwyddiannus, mae’r Gaeaf o Lesiant yn cychwyn y mis hwn ar draws y sir gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, i roi tocynnau am ddim i’r gymuned i atyniadau Hamdden Sir Ddinbych a safleoedd hamdden.

Bydd miloedd o docynnau am ddim ar gael i’r cyhoedd, gan gynnwys tocynnau Ninja TAG am ddim, tocynnau i weithgareddau SportZone yn Rhuthun, Dinbych a’r Rhyl, tocynnau i chwarae yn Chwarae Antur Nova a Chwarae Antur SC2, yn ogystal â Chwarare Meddal yn Llangollen, Rhuthun a’r Rhyl, a llawer mwy o weithgareddau’n cael eu cynnig, gan gynnwys llogi cyrtiau badminton am ddim i deuluoedd a sesiynau Learn2Ride.

Gellir archebu gweithgareddau trwy gysylltu’r safleoedd, cliciwch isod i archebu Chwarae Antur SC2 a Ninja TAG ar-lein
Gellir archebu gweddill y gweithgareddau trwy’r safleoedd yn uniongyrchol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r safle perthnasol.
Mae pob gweithgaredd yn amodol ar argaeledd ac mae tocynnau am ddim yn gyfyngedig.
Ffoniwch Nova ar 01824 712323 i archebu eich sesiwn am ddim.
Pan yn archebu sesiwn Chwarae SC2 ar-lein rhwng Dydd Llun a Gwener, defnyddiwch y cod WWPLAY wrth y ddesg dalu i hawlio eich sesiwn am ddim.

Chwarae Meddwl ar gael yn Hamdden Rhuthun, Y Rhyl, Llangollen.

Gellir defnyddio tocynnau nofio teulu yn ystod unrhyw sesiwn gyhoeddus Dydd Llun – Sul. Ffoniwch neu ewch i’ch canolfan Hamdden Sir Ddinbych leol i archebu eich sesiwn Nofio Teulu am ddim.

Pan yn archebu Ninja TAG ar-lein rhwng Dydd Llun a Gwener, defnyddiwch y cod WWTAG wrth y ddesg dalu i hawlio eich tocyn rhad ac am ddim.
Sportzone ar gael yn canolfannau Hamdden Dinbych, Y Rhyl a Rhuthun. Ffoniwch i archebu’ch lle.

Am fwy o fanylion, cysylltwch: ActiveCommunities@denbighshireleisure.co.uk

I archebu, cysylltwch eich Canolfan Hamdden Sir Ddinbych lleol.

Linciau defnyddiol:

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu