Mae HSDd yn edrych i gomisiynu artist proffesiynol neu ddatblygol lleol i greu deuddeg gwobr a fydd yn cael eu cyflwyno i enillwyr y categorïau gwobrwyo ym mis Tachwedd.

Mae seremoni wobrwyo Cymunedau Bywiog HSDd yn dathlu rhagoriaeth chwaraeon a diwylliannol Sir Ddinbych ac yn cael ei gynnal nos Fercher, 22ain Tachwedd 2023 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl. Mae disgwyl y bydd dros 400 o westeion yn bresennol yn y seremoni, gan gynnwys trigolion, partneriaid a busnesau lleol ochr yn ochr â’r holl enwebeion a’u teuluoedd.

Mae HSDd yn gwahodd artistiaid lleol, datblygol a phroffesiynol, sy’n byw a/neu’n gweithio yn Sir Ddinbych, neu artistiaid sy’n wreiddiol o Sir Ddinbych ac sy’n byw yn rhywle arall i anfon eu cynnig dylunio gwobr cyn dydd Llun 19eg Mehefin, gan y bydd y rhestr fer yn cael ei benderfynu ar ddydd Mawrth Mehefin 20fed.

Telir ffi am y comisiwn hwn a bydd y ffi hon yn talu am yr holl gostau dylunio, deunyddiau, cynhyrchu, pecynnu a chludo.

Mae’r meini prawf ar gyfer cynllun y wobr i’w gweld yma: https://denbighshireleisure.co.uk/cy/ac-awards-call-for-artists/

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd “Gyda chymaint o dalent artistig greadigol ac amrywiol yn Sir Ddinbych, roeddem yn meddwl y byddai’r digwyddiad mawreddog hwn yn gyfle perffaith i artistiaid newydd neu broffesiynol lleol arddangos eu gwaith. Mae’n ddathliad gwych, a gyda dros 400 o westeion lleol yn bresennol, gall y cyfle hwn roi lefel wych o amlygiad i’r ymgeisydd buddugol. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn yr holl gynigion dylunio gwobrau ac i allu arddangos talent leol!”

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am y briff creadigol, ffoniwch Siân Fitzgerald, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol ar 01824 708216 / 07717540857 neu e-bostiwch sian.fitzgerald@denbighshireleisure.co.uk