Dathlwyd cyflawniadau celfyddydol a chwaraeon cymuned Sir Ddinbych ar nos Fercher 22ain o Dachwedd yng Ngwobrau cyntaf Cymunedau Bywiog HSDd yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.

Roedd y gwobrau mawreddog hyn yn anrhydeddu aelodau o’r gymuned sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cyflawni rhywbeth arbennig mewn chwaraeon, gweithgaredd neu gelfyddyd a diwylliant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Daeth dros 450 o westeion, gan gynnwys trigolion, partneriaid a busnesau lleol, i’r digwyddiad mawr hwn yn Theatr Pafiliwn y Rhyl, ochr yn ochr â’r holl enwebeion a’u teuluoedd, a drefnwyd gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf (HSDdCyf).

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae gwobrau Cymunedau Bywiog HSDdCyf yn ddigwyddiad gwych sy’n helpu i gydnabod a dathlu llwyddiant unigolion, timau, clybiau ac ysgolion yn Sir Ddinbych. Rydym yn falch iawn ein bod wedi dod â’r digwyddiad hwn i theatr Pafiliwn y Rhyl, ac roedd yn anrhydedd cael cynnal y digwyddiad mawreddog hwn yn un o’n cyfleusterau blaenllaw, bwyty a bar 1891 eleni. Aeth y tîm HSDdCyf gam ymhellach i roi’r digwyddiad hwn at ei gilydd ac roedd yn anhygoel gweld cymaint o bobl dalentog mewn un ystafell. Rydym yn ffodus iawn yn Sir Ddinbych i gael cymaint o dalent ac roedd lot o waith pendroni i’r panel beirniadu eleni.”

Roedd y digwyddiad yn anrhydeddu deuddeg categori gan gynnwys unigolion, grwpiau, timau, ysgolion a chlybiau sydd wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cyflawni rhywbeth mewn chwaraeon neu weithgaredd, celfyddydau a diwylliant yn Sir Ddinbych. Rhestr o enillwyr a chategorïau’r noson:

Llwyddiant Oes – Leah Owen

Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Carla Hargraves

Ysbrydoliaeth Ifanc – Hanna Tudor

Prosiect Celfyddydau Mewn Iechyd Gorau – Llesiant gyda Chelf (Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol)

Rhagoriaeth Oedolyn – Ceri Roberts

Ysgol Gynradd y Flwyddyn – Ysgol Twm o’r Nant

Rhagoriaeth Person Ifanc – Olivia Schrimshaw

Ysgol Uwchradd y Flwyddyn – Ysgol Uwchradd Prestatyn

Prosiect Creadigol Cymunedol Gorau – STAND NW CIC

Gweithle Gweithgar y Flwyddyn – Ysgol Llywelyn

Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn – Gerwyn Jones

Clwb Chwaraeon y Flwyddyn – Clwb Pêl Droed Dinbych

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://denbighshireleisure.co.uk/cy/enillwyr-gwobrau-hsdd/