Telerau ac Amodau Aelodaeth

Hamdden Sir Ddinbych Cyf

Telerau ac Amodau Aelodaeth

Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn cadw’r hawl i ddiwygio’r telerau ac amodau bob hyn a hyn. Mae’r telerau ac amodau isod yn berthnasol i gwsmeriaid ag aelodaeth Hamdden Sir Ddinbych o unrhyw gategori, yn cynnwys Cynllun Nofio Sir Ddinbych.

Aelodaeth (Cyffredinol)

Yn ôl y gyfraith, mae gennych chi’r hawl i ganslo’r aelodaeth a brynoch chi ar-lein o fewn 14 diwrnod, sy’n dechrau o’r diwrnod y prynoch chi’r aelodaeth hon. Os byddwch chi’n penderfynu gwneud hyn, bydd Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r ffi ymuno / gweinyddu (os yw’n berthnasol i’ch aelodaeth) a’r swm pro rata sy’n ddyledus am eich defnydd o’r cyfleusterau hyd at y dyddiad yr ydych chi’n canslo. 

Oni bai y nodwyd fel arall, at ddibenion aelodaeth Hamdden Sir Ddinbych, bydd oedolion yn cael eu hystyried yn 16 oed a hŷn.

Nid yw Hamdden Sir Ddinbych yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddogfennau gwreiddiol sy’n mynd ar goll neu sy’n cael eu difrodi y cafodd eu cyflwyno i’w defnyddio yn y broses ymgeisio ar gyfer aelodaeth, oni bai y gellir profi bod gweithiwr yn y cwmni wedi ymddwyn yn esgeulus.

Bydd pob aelod yn cael cerdyn aelodaeth digidol trwy ap Hamdden Sir Ddinbych.

Mae’n ofynnol i bob aelod gyflwyno llun ar gyfer eu cofnod aelodaeth. Ni fydd y llun hwn yn ymddangos ar y cerdyn, ond mae ei angen at ddibenion adnabod pan ddefnyddir unrhyw ganolfan.

Ni ellir trosglwyddo aelodaeth. Yr unigolyn a roddir yr aelodaeth iddo yn unig a gaiff ddefnyddio’r cyfleusterau.

Mae’n rhaid i aelodau gofrestru bob tro maen nhw’n ymweld, trwy ddangos eu cerdyn digidol i’r Gwasanaethau Gwesteion neu wrth sgrin y drws. Gellir gofyn i aelodau ddangos eu cerdyn digidol unrhyw bryd yn ystod eu hymweliad hefyd. 

Mae’n rhaid i aelodau gydymffurfio â’r Polisi Derbyn a rheolau perthnasol wrth ddefnyddio cyfleusterau Hamdden Sir Ddinbych. https://denbighshireleisure.co.uk/cy/admission-policy-wel/

Cyfrifoldeb aelodau yw rhoi gwybod i Hamdden Sir Ddinbych am newidiadau i fanylion personol/amgylchiadau a/neu gyflyrau meddygol/iechyd drwy’r porth ar-lein.

Pan fo’r aelodaeth yn ymwneud â phlentyn, cyfrifoldeb y rhiant/gwarcheidwad yw darparu gwybodaeth feddygol gyfredol am eu plentyn. Cyfrifoldeb y rhiant/gwarcheidwad yw sicrhau bod plentyn yn ddigon ffit ac iach i gymryd rhan mewn gweithgareddau Hamdden Sir Ddinbych.

Bydd gwybodaeth a ddarperir yn rhan o’r broses aelodaeth yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://denbighshireleisure.co.uk/privacy/#privacy

Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i newid neu dynnu buddion aelodaeth sy’n cael eu cynnig yn gyfan gwbl neu’n rhannol, ar unrhyw adeg.

Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i unrhyw gwsmer ac i derfynu ei aelodaeth ar unwaith os canfyddir bod aelod wedi torri’r telerau ac amodau hyn.

Aelodaeth (Ffitrwydd)

Mae aelodaeth oedolion ar gyfer cwsmeriaid 16 oed a hŷn.  Mae aelodaeth iau ar gyfer cwsmeriaid rhwng 11-15 oed.

Wrth ymuno, mae’n rhaid i aelodau gwblhau Datganiad Ymrwymiad Iechyd cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau.

Mae cyfyngiadau o ran yr amseroedd y gall aelodau iau ddefnyddio’r cyfleusterau, a’r lleoliadau a’r offer y gallan nhw eu defnyddio. Mae manylion llawn ar gael yn: https://denbighshireleisure.co.uk/cy/junior-fitness-cym/

Aelodaeth ffitrwydd ar y cyd (2 person)

Mae aelodaeth ar y cyd ar gael i gwsmeriaid 16 oed a hŷn yn unig.

Bydd aelodaeth angen un aelod i weithredu fel prif ddeiliad y cyfrif, a fydd yn gyfrifol am dalu’r ffi aelodaeth fisol.

Bydd gan y ddau aelod gytundeb aelodaeth Premiwm, a rhaid iddynt gydymffurfio â’n telerau ac amodau aelodaeth Premiwm.

Nid oes unrhyw gonsesiwn na gostyngiadau corfforaethol ar gael ar aelodaeth ar y cyd.

Canslo

Bydd canslo ar gais y ddau aelod yn amodol ar ein telerau ac amodau canslo safonol.

Bydd canslo ar gais y brif aelod yn canslo’r aelodaeth ar y cyd.

Gall ail aelodau ofyn am gael eu tynnu o’r aelodaeth. Bydd y prif aelod yna yn symud i aelodaeth unigol o’u dewis.

Ataliadau

Os yw’r ddau aelod yn dymuno gohirio, gellir atal yr aelodaeth ar y cyd yn unol â’n telerau ac amodau presennol.

Os bydd UN aelod yn dymuno atal dros dro, bydd hyn yn annilysu’r aelodaeth ar y cyd a bydd ein telerau ac amodau canslo yn berthnasol.

Newidiadau i Aelodaeth ar y Cyd

Ni chaniateir newidiadau i aelodau ar y cyfrif. Os yw un o’r ddau aelod eisiau eu disodli, bydd angen aelodaeth newydd.

Mae aelodaeth ar y cyd ar gael fel Premiwm yn unig. Ni chaniateir newid categori aelodaeth e.e. Campfa Craidd.

Aelodaeth (Consesiwn neu Gorfforaethol)

Bydd angen prawf o gymhwysedd a bydd angen ei gynhyrchu a’i gofnodi ar yr adeg yr ydych chi’n ymuno. Bydd angen i chi uwchlwytho prawf o gymhwysedd gan ddefnyddio’r porth ar-lein cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl ymuno.  Os na fyddwch chi’n gwneud hynny, bydd yn arwain at newid eich aelodaeth i gyfradd safonol o’ch dyddiad talu nesaf.

Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i addasu cymhwysedd ar gyfer Aelodaeth Consesiwn neu Gorfforaethol. Gellir gofyn am brawf cymhwysedd o bryd i’w gilydd i sicrhau bod yr hawl yn parhau.

Aelodaeth (Gwersi Nofio)

Mae Cynllun Nofio Hamdden Sir Ddinbych yn rhaglen barhaus sydd â phythefnos o seibiant dros y Nadolig, ac unrhyw ŵyl y banc.

Diffinnir lefel pob dosbarth gan feini prawf Nofio Cymru a chânt eu hasesu yn erbyn y meini prawf hyn.

Cedwir rhestrau aros yn ôl dyddiad a chaiff plant eu symud i’r Cynllun Nofio yn yr un modd.

Pan fydd plentyn wedi’i asesu ac yn barod i symud dosbarth, bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i ddod o hyd i le yn y Don briodol. Fodd bynnag, ni ellir gwarantu lle ar unwaith bob amser. Dan yr amgylchiadau hyn, disgwylir i blant aros yn eu Ton bresennol hyd nes y bydd lle ar gael iddynt. Gall plant hefyd gael cynnig lle mewn pwll nofio Hamdden Sir Ddinbych arall.

Ffioedd/Taliadau

Bydd ffioedd ymuno a thaliadau pro rata yn berthnasol i bob aelodaeth Ffitrwydd ac mae’n rhaid eu talu yn syth ar ôl ymuno. Ni ellir ad-dalu’r ffioedd hyn oni nodir yn wahanol.

Bydd taliadau pro rata yn berthnasol i bob aelodaeth Gwersi Nofio ac mae’n rhaid eu talu yn syth ar ôl ymuno. Ni ellir ad-dalu’r ffioedd hyn oni nodir yn wahanol.

Mae’r ffioedd a godir ar gyfer aelodaeth Ffitrwydd a Gwersi Nofio yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cau a rhaglen lai dros y Nadolig a Gwyliau Banc a drefnwyd. Ni fydd credyd nac ad-daliadau’n cael eu rhoi.

Mae’n bosib y bydd ffioedd aelodaeth yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd. Bydd aelodau’n cael eu hysbysu ymlaen llaw am unrhyw gynnydd drwy e-bost. 

Mae’n rhaid i unigolion sydd â dyledion i Hamdden Sir Ddinbych dalu’r dyledion hynny cyn y gallan nhw ymuno â Hamdden Sir Ddinbych neu ddefnyddio eu cyfleusterau.

Mae aelodau sy’n ymuno drwy’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn gymwys ar gyfer y gyfradd ostyngol tra bod ganddyn nhw aelodaeth barhaus yn unig. Pan fydd aelod wedi gadael y Cynllun, ni all ail-ymuno ar y gyfradd ostyngol.

Mae’n rhaid talu’n llawn am wersi nofio y telir amdanynt ag arian parod a chyn y wers gyntaf. 

Mae’n rhaid ychwanegu at wersi nofio y telir amdanynt mewn arian parod cyn dechrau’r sesiwn olaf y telir amdani. Gall methu â gwneud hynny olygu colli’ch lle ar y rhaglen.

Debyd Uniongyrchol

Mae’n rhaid talu unrhyw daliadau Debyd Uniongyrchol sydd wedi methu / wedi’u canslo cyn y gall aelod ailddechrau defnyddio’r cyfleusterau.

Yn achos taliad a fethwyd, bydd Hamdden Sir Ddinbych yn ail-gyflwyno a chasglu ar y dyddiad talu nesaf sydd ar gael – naill ai’r 1af / 15fed o’r mis.

Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i ganslo aelodaeth unrhyw gwsmer sy’n methu dau neu fwy o’r taliadau debyd uniongyrchol. 

Gwarant Debyd Uniongyrchol

Cynigir y warant hon gan bob banc a chymdeithas adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddiadau i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Os bydd unrhyw newidiadau i symiau, dyddiadau neu amlder eich Debyd Uniongyrchol, bydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn rhoi gwybod i chi 10 diwrnod gwaith cyn i’ch cyfrif gael ei ddebydu, neu fel y cytunwyd fel arall. Os byddwch chi’n gofyn i Hamdden Sir Ddinbych gasglu taliad, bydd cadarnhad o’r swm a’r dyddiad yn cael ei roi i chi pan wneir y cais.

Os gwneir camgymeriad yn nhaliad eich Debyd Uniongyrchol gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf neu eich banc neu gymdeithas adeiladu, byddwn ni’n ad-dalu’r swm a dalwyd o’ch banc neu gymdeithas adeiladu.

Os byddwch chi’n derbyn ad-daliad na ddylech chi fod wedi ei gael, mae’n rhaid i chi ei ad-dalu pan fydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gofyn i chi wneud.

Gallwch chi ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu.  Efallai y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Rhowch wybod i Hamdden Sir Ddinbych Cyf hefyd, os gwelwch yn dda.

**Noder mai cyfrifon banc y DU yn unig sy’n dderbyniol ar gyfer Debyd Uniongyrchol.

Ad-daliadau

Ni fydd ad-daliadau’n cael eu rhoi am beidio â defnyddio cyfleusterau canolfan.

Pan nad yw plentyn bellach yn gallu mynychu ei wersi nofio ar ei ddiwrnod/amser dynodedig, gwneir pob ymdrech i gynnig diwrnodau ac amseroedd eraill. Ni roddir ad-daliad os caiff dyddiau ac amseroedd y gwersi amgen eu gwrthod.

Os bydd gwers nofio yn cael ei chanslo gan y ganolfan hamdden, bydd aelodau gwersi nofio yn cael credyd gwers yn awtomatig.

Dylid gwneud ceisiadau am ad-daliadau yr ydych chi’n gymwys amdanynt yn ysgrifenedig (e-bost/llythyr) i memberships@denbighshireleisure.co.uk

Gostyngiadau/Hyrwyddo

Mae cardiau hamdden yn cynnig gostyngiadau i ddefnyddwyr ar y prisiau safonol ym mhob canolfan Hamdden Sir Ddinbych. Mae’n rhaid cynhyrchu’r cerdyn i gael y gostyngiad ar bob achlysur, neu mae’n rhaid talu’r pris llawn.

Ni ellir defnyddio cardiau hamdden gydag unrhyw gynnig neu ostyngiad arall, oni bai y nodwyd yn wahanol. 

O bryd i’w gilydd, gall Hamdden Sir Ddinbych gynnal cynigion aelodaeth a bydd telerau ac amodau ychwanegol ar gael ar gyfer y rhain.

Gohirio a Chanslo

Mae angen deg diwrnod o rybudd ar Hamdden Sir Ddinbych i ohirio neu ganslo aelodaeth.

Mae’n rhaid gohirio neu ganslo aelodaeth trwy borth ar-lein Hamdden Sir Ddinbych https://denbighshireleisure.co.uk/cy/manage-my-membership-wel/

Ni ellir gohirio neu ganslo aelodaeth dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn y ganolfan hamdden.

Y cyfnod byrraf y gellir gohirio aelodaeth Ffitrwydd yw mis. Y cyfnod hiraf y gellir gohirio aelodaeth Ffitrwydd yw tri mis. Bydd ffi gohirio o £5 y mis yn ofynnol, a fydd yn cael ei dynnu trwy ddebyd uniongyrchol misol yn y ffordd arferol am y cyfnod gohirio.

Y cyfnod hiraf y gellir gohirio aelodaeth Gwersi Nofio yw mis, ac mae angen nodyn meddyg ar ei gyfer. Bydd ffi gohirio o £5 yn ofynnol, a fydd yn cael ei dynnu trwy ddebyd uniongyrchol yn y ffordd arferol.

Bydd y cyfnod gohirio’n dechrau o’r dyddiad casglu nesaf sydd ar gael. Bydd taliad yn ailgychwyn yn awtomatig pan fydd y cyfnod gohirio wedi dod i ben.

Pan fydd taliad misol wedi’i dderbyn, ni chynigir ad-daliadau llawn neu rannol pe bai cwsmer yn dymuno canslo ei aelodaeth. Bydd aelodaeth sy’n cael ei ganslo hanner ffordd trwy fis calendr yn gymwys o’r dyddiad talu nesaf.

Cyfrifoldeb y cwsmer yw canslo ei daliad debyd uniongyrchol.

Cau a Newidiadau i Weithgareddau

Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i newid amser neu ganslo gwers, dosbarth neu sesiwn am unrhyw reswm. Dan yr amgylchiadau hyn, bydd Hamdden Sir Ddinbych yn gwneud pob ymdrech i roi cymaint o rybudd â phosibl.

Er mwyn sicrhau parhad y rhaglen, mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i ddefnyddio athrawon/hyfforddwyr llanw heb roi rhybudd ymlaen llaw i chi.

Os bydd unrhyw ganolfannau yn cau yn annisgwyl, bydd Hamdden Sir Ddinbych yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â phob cwsmer sydd wedi cadw lle ar unrhyw weithgareddau.

Os oes modd aildrefnu sesiwn a gollwyd, bydd Hamdden Sir Ddinbych yn gwneud pob ymdrech i roi gwybod i gwsmeriaid ynghylch y dyddiad/amser newydd.

Mae cyfleusterau a rhaglenni’n amrywio o ganolfan i ganolfan ac maen nhw i gyd yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael.

Preifatrwydd

Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor cywir, efallai y bydd angen i’n tîm Gwasanaethau Gwesteion ofyn cwestiynau o natur bersonol o bryd i’w gilydd. Bydd yr holl wybodaeth a dderbynnir yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol, ac yn unol â’n polisi preifatrwydd. Os byddai’n well gennych, ar unrhyw adeg yn ystod y sgwrs, siarad ag aelod o’n tîm yn breifat, rhowch wybod iddynt a bydd hyn yn cael ei drefnu.

Trwy dderbyn y telerau ac amodau hyn, rydych chi’n cytuno â’n Polisi Preifatrwydd. I gael rhagor o wybodaeth ar hyn a sut yr ydym ni’n defnyddio eich data – dilynwch y ddolen hon: https://denbighshireleisure.co.uk/privacy/

 

Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

Rhagor o wybodaeth

Gadewch i ni gymdeithasu