Cadarnhawyd gwledd o adloniant am ddim ar gyfer seremoni Goleuo Golau Nadolig y Rhyl, gan gynnwys GloBot 8 troedfedd ac arddangosfa tân gwyllt.

Bydd sêr y panto eleni Jake Canuso, sy’n fwyaf adnabyddus am chwarae ei ran fel gweinydd Sbaeneg ar y gyfres Benidorm ar ITV, a Richard Hawley, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Johnny Connor yn Coronation Street ar ITV, yn cynnau goleuadau Nadolig y dref ar y Stryd Fawr yn y Rhyl ar ddydd Sadwrn 26 Tachwedd rhwng 1pm a 4pm.

Yn diddanu torfeydd a theuluoedd bydd Glowbot 8 troedfedd, aelodau cast panto Nadolig Aladdin eleni a modelu balŵns cyn arddangosfa tân gwyllt byr i gloi’r prynhawn gyda chlec.

Hefyd ar y llwyfan yn diddanu’r dorf rhwng 1pm-4pm bydd cystadleuydd llwyddiannus Britain’s Got Talent, Gruffydd Wyn, y mezzo soprano aruchel Sioned Terry, yr hyfryd Serenity Royal, y talentog Matty Roberts a’r band poblogaidd Chasing Shadows yn chwarae set acwstig. Gydag amrywiaeth o berfformwyr ar ac oddi ar y llwyfan, mae rhywbeth at ddant pawb yn yr ŵyl Goleuadau Nadolig eleni.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym yn falch iawn o allu cynnal prynhawn o adloniant am ddim i’r Rhyl, yn enwedig gan ystyried y pwysau economaidd presennol, mae’n bwysicach nag erioed i ddod at ein gilydd fel cymuned a mwynhau digwyddiadau am ddim fel hyn. Byddwn hefyd yn cynnal ein cyngerdd pops Nadolig blynyddol ar ddydd Sul 27 Tachwedd, y ddau ddigwyddiad am ddim ac mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Rhyl.”

Dywedodd maer y Rhyl, y Cynghorydd Diane King: “Mae digwyddiad goleuadau Nadolig y Rhyl yn argoeli i fod yn wledd o adloniant a thalent. O strydoedd Corrie i’n stryd fawr, mae’r digwyddiad yn llawn panto, sêr teledu, a cherddorion lleol rhagorol. Mae cynnau goleuadau’r Nadolig yn un o uchafbwyntiau calendr y Rhyl ac mae’n addo ychydig o oriau cyfareddol. Mae’r cyngor tref yn falch o fod yn bartner gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf i lwyfannu’r digwyddiad a rhoi hwb i dymor yr ŵyl.”