Buddion
Ein cyfleusterau
Aelodaethau
Prisiau
Aelodau presennol
Telerau ac amodau
Ymuno ar-lein
COFRESTRU EICH DIDDORDEB
ap hsddcyf
Unwaith y byddwch yn dod yn aelod gyda HSDdCyf, ni fyddwch yn ymarfer ar eich pen eich hun. Gydag amrywiaeth eang o opsiynau gweithgaredd ar draws y sir, a’n harbenigwyr ffitrwydd cyfeillgar bob amser yn barod i’ch helpu i gyrraedd eich nodau, byddwch yn ymuno â chymuned HSDdCyf.

Buddion aelodaeth:

Unwaith i chi ddod yn aelod o Hamdden Sir Ddinbych, ni fyddwch yn ymarfer ar eich pen eich hunain.  Gydag amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael ar draws y sir, a gyd’n harbenigwyr ffitrwydd cyfeillgar sydd bob amser ar gael i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau, byddwch yn ymuno â chymuned ffitrwydd Hamdden Sir Ddinbych.

Gyda’n pecynnau aelodaeth oedolion ac iau gwych, gallwch dalu gyda debyd uniongyrchol bob mis ac nid oes angen ymrwymiad hirdymor.  Yn ogystal â gallu dewis o amrywiaeth o weithgareddau ac ymarfer corff hwyliog mewn unrhyw un o’n canolfannau ar draws y sir, mae ein haelodaeth hefyd yn rhoi mynediad i chi at:-

  • Mynediad i bob un o’r 8 cyfleuster hamdden (pedwar clwb premiwm)
  • Offer sy’n arwain y diwydiant, wedi’i gysylltu’n llawn
  • Ardaloedd hyfforddi swyddogaethol a chyngor
  • Parthau hyfforddi cryfder pwrpasol
  • Sesiynau nofio cyhoeddus ar gael bob dydd
  • Dros 100 o ddosbarthiadau wythnosol
  • Opsiynau archebu ar-lein
  • Cefnogaeth am ddim gyda chynlluniau gweithgaredd trwy ein rhaglen Fy Llwyddiant
  • Parcio am ddim yn ein holl ganolfannau hamdden
  • Dadansoddiad cyfansoddiad corff Tanita am ddim
  • Cymorth a Chyngor gan hyfforddwyr cymwys
  • Ap MyWellness am ddim gyda sesiynau campfa a chartref, dosbarthiadau ar-lein ac olrhain ymarfer corff
  • Gostyngiadau cerdyn hamdden
  • Gostyngiadau unigryw trwy gydol y flwyddyn ar draws atyniadau DLL, bwytai a mwy
MYNEGI EICH DIDDORDEB

Cyfleusterau

Ystafelloedd Ffitrwydd

Yn ein hystafelloedd ffitrwydd, byddwch yn hyfforddi gyda’r offer TechnoGym diweddaraf, a ddefnyddir gan athletwyr Olympaidd a phroffesiynol i gynnal eu ffitrwydd. Mae’ch rhaglen yn cael ei storio ar eich cwmwl Wellness personol sy’n tracio eich cynnydd ac yn eich helpu i gyflawni’ch nodau. Mae ein staff proffesiynol cyfeillgar bob amser ar gael gyda chyngor a chefnogaeth i’ch helpu chi.

Dosbarthiadau Ymarfer Corff Grŵp

P’un a ydych chi’n ddechreuwr, yn hyfforddwr profiadol neu rhywle yn y canol, mae gennym y dosbarthiadau iawn i chi. Gyda chymysgedd gwych o wella ffyrfder, cryfhau a chardio, rydyn ni’n cynnig dosbarthiadau ar gyfer pob lefel o allu. Felly os ydych chi am wneud ffrindiau newydd, neu os yw’n well gennych weithio allan mewn grŵp, rydyn ni’n cynnig tua 80 o ddosbarthiadau’r wythnos ar draws ein canolfannau, pob un wedi’i gynnwys yn eich aelodaeth.

Nofio

Rydym yn cynnig amrywiaeth ragorol o sesiynau nofio cyhoeddus a nofio lôn ledled y sir. Rydym hefyd yn cynnig dosbarthiadau dŵr fel aerobeg dŵr a chylchedau dwr.

YMUNO

Aelodaeth Ffitrwydd

Mae ein haelodaeth Premiwm yn cynnig y dewisiadau eithaf ffitrwydd i chi. Eisiau gosod y cyflymder mewn dosbarth Clubbercise, gweithio chwys yn y gampfa, neu guro’ch amser gorau yn y pwll – beth bynnag rydych chi yn chwilio amdano – gall Premiwm ei gyflawni.

Mae gan bob un o’n canolfannau rywbeth ei hun i’w gynnig a thrwy roi mynediad i chi i bob un o’n 8 Canolfan Hamdden, mae ein haelodaeth ffitrwydd yn rhoi mynediad i chi i ystod wych o weithgareddau, cyfleusterau ac offer.

I gael gwybod mwy am yr hyn sydd ar gael, cliciwch ar y botwm Cofrestru Diddordeb heddiw, neu galwch i mewn i’ch Canolfan Hamdden leol, lle bydd ein staff yn hapus i’ch tywys o gwmpas.

COFRESTRU diddordeb
ymuno nawr

Aelodaeth Myfyriwr 16-17 oed

Mae ein haelodaeth myfyrwyr yn rhoi mynediad i chi i’n campfa, dosbarthiadau ymarfer corff grŵp a rhaglen nofio, ond am y pris iawn i bobl ifanc 16 a 17 oed sy’n dal mewn addysg amser llawn.

Beth mae’n ei gynnwys?

  • Defnydd o’r 8 Canolfan Hamdden
  • Sesiynau Ystafell Ffitrwydd – Rhai gyda hyfforddwr
  • Clwb Seiclo
  • Sesiynau Nofio Cyhoeddus
  • Rhaglen FyLlwyddiant wedi’i deilwra i’r defnyddiwr
  • Arbedwch hyd at 35% ar daliadau mynediad
cofrestru diddordeb

Aelodau Iau 11-15 mlwydd oed

Rydym i gyd yn gwybod y gall ymarfer corff yn dda a chymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd sicrhau buddion iechyd a lles pwysig. Mae ein pecyn Aelodaeth Iau yn helpu i gychwyn pobl ifanc ar y llwybr cywir i fwynhau cadw’n heini ac yn egnïol, a dechrau arferion a all aros gyda chi am oes.

Buddion Aelodaeth:

  • Defnydd o 8 Canolfan Hamdden

  • Sesiynau Ystafelloedd Ffitrwydd – Rhai â hyfforddwyr

  • Sesiynau Nofio Cyhoeddus
  • Archebu ar-lein 7 diwrnod o flaen llaw
  • Arbed hyd at 30% oddi ar ffioedd mynediad

cofrestru diddordeb
ymuno nawr

Prisiau aelodaeth

Aelodaeth OedolionDebyd uniongyrchol
Premiwm (gampfa, nofio,dosbarthiadau a grwp seiclo)*£40.00
Grŵp Ex (dosbarthiadau)£35.00
Clwb Seiclo£25.00
Nofio£30.00

Talu wrth i chi fynd - Campfa**Cost pob ymweliad
Oriau brig£7.50
Oriau tawel£5.50
Oriau aelodaeth ifanc£3.75

Aelodaethau Ifanc - CampfaDebyd Uniongyrchol y mis
Ffitrwydd Myfyrwyr 11-15oed£15
Nofio i blant 3-15oed£12.50

*Ffioedd ymuno yn berthnasol

Telerau ac Amodau Aelodaeth

Amodau a thelerau

COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB AM FWY O WYBODAETH

I DDARGANFOD MWY AM AELODAETHAU, NEU I SIARAD AG AELOD O STAFF, CWBLHEWCH Y FFURFLEN ISOD:


    Dewch o hyd i bob un o’n canolfannau hamdden ar y map, mae 8 i gyd:

    Gyrfaoedd gyda Hamdden Sir Ddinbych

    Cliciwch isod i weld pa swyddi gwag sydd gennym ar y funud

    Rhagor o wybodaeth

    Gadewch i ni gymdeithasu