Unwaith y byddwch yn dod yn aelod gyda HSDdCyf, ni fyddwch yn ymarfer ar eich pen eich hun. Gydag amrywiaeth eang o opsiynau gweithgaredd ar draws y sir, a’n harbenigwyr ffitrwydd cyfeillgar bob amser yn barod i’ch helpu i gyrraedd eich nodau, byddwch yn ymuno â chymuned HSDdCyf.
Ein Cyfleusterau

Ystafelloedd Ffitrwydd
Yn ein hystafelloedd ffitrwydd, byddwch yn hyfforddi gyda’r offer TechnoGym diweddaraf, a ddefnyddir gan athletwyr Olympaidd a phroffesiynol i gynnal eu ffitrwydd. Mae’ch rhaglen yn cael ei storio ar eich cwmwl Wellness personol sy’n tracio eich cynnydd ac yn eich helpu i gyflawni’ch nodau. Mae ein staff proffesiynol cyfeillgar bob amser ar gael gyda chyngor a chefnogaeth i’ch helpu chi.

Nofio
Rydym yn cynnig amrywiaeth ragorol o sesiynau nofio cyhoeddus a nofio lôn ledled y sir. Rydym hefyd yn cynnig dosbarthiadau dŵr fel aerobeg dŵr a chylchedau dwr.

Dosbarthiadau Ymarfer Corff Grŵp
P’un a ydych chi’n ddechreuwr, yn hyfforddwr profiadol neu rhywle yn y canol, mae gennym y dosbarthiadau iawn i chi. Gyda chymysgedd gwych o wella ffyrfder, cryfhau a chardio, rydyn ni’n cynnig dosbarthiadau ar gyfer pob lefel o allu. Felly os ydych chi am wneud ffrindiau newydd, neu os yw’n well gennych weithio allan mewn grŵp, rydyn ni’n cynnig tua 80 o ddosbarthiadau’r wythnos ar draws ein canolfannau, pob un wedi’i gynnwys yn eich aelodaeth.
Aelodaeth Ffitrwydd

I gael gwybod mwy am ein hopsiynau aelodaeth cliciwch ar y botwm Cofrestru Eich Diddordeb heddiw, neu galwch heibio i’ch Canolfan Hamdden leol, lle bydd ein staff yn hapus i’ch dangos o gwmpas.

Aelodau Iau 11-15 mlwydd oed
Rydym i gyd yn gwybod y gall ymarfer corff yn dda a chymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd sicrhau buddion iechyd a lles pwysig. Mae ein pecyn Aelodaeth Iau yn helpu i gychwyn pobl ifanc ar y llwybr cywir i fwynhau cadw’n heini ac yn egnïol, a dechrau arferion a all aros gyda chi am oes.
Buddion Aelodaeth:
Defnydd o 8 Canolfan Hamdden
Sesiynau Ystafelloedd Ffitrwydd – Rhai â hyfforddwyr
Sesiynau Nofio Cyhoeddus
Archebu ar-lein 7 diwrnod o flaen llaw
Arbed hyd at 30% oddi ar ffioedd mynediad
Prisiau aelodaeth
Aelodaeth Oedolion | Debyd uniongyrchol | Cost Consesiwn |
Premiwm a mwy* (BOX12, Studio X, gampfa, nofio,dosbarthiadau a grwp seiclo) | £49.00 | £44.00 |
Premiwm* (Gampfa, nofio,dosbarthiadau a grwp seiclo) | £42.00 | £37.00 |
Premiwm Ar y cyd *(gampfa, nofio,dosbarthiadau a grwp seiclo) | £84.00 | |
Assist Fit Premiwm*(Assist Fit, gampfa, nofio, dosbarthiadau) | £42.00 | £39.00 |
Assist Fit a Nofio*(Assist Fit, nofio) | £35.00 | £32.00 |
Campfa Craidd* | £37.00 | £32.00 |
Grŵp Ex ^ (dosbarthiadau) | £37.00 | £32.00 |
Clwb Seiclo ^ | £25.00 | £22.00 |
Nofio | £32.00 | £27.00 |
Aelodaethau Myfyriwr 16 & 17 | Debyd Uniongyrchol y Mis |
Premiwm* (Campfa, Nofio, Dosbarthiadau a Grwp Seiclo) | £32.00 |
Campfa Craidd* | £24.00 |
Ymarfer Grwp^ (Dosbarthiadau yn cynnwys Grwp Seiclo) | £24.00 |
Nofio | £22.00 |
Aelodaethau Ifanc - Campfa | Debyd Uniongyrchol y mis |
Ffitrwydd Myfyrwyr 11-15oed + | £16 |
Nofio i blant 3-15oed | £12.50 |
Tocyn Premiwm | Pris |
Tocyn premiwm 7 diwrnod (campfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd a nofio) | £25.00 |
Talu wrth i chi fynd - Campfa*** | Cost pob ymweliad (gyda aelodaeth ffitrwydd hamddenol) | Pris pob ymweliad (heb aelodaeth ffitrwydd hamddenol) |
Oriau brig | £9.00 | £12.00 |
Oriau tawel ** | £6.50 | £12.00 |
Oriau aelodaeth ifanc | £4.00 |
*Ffi Ymuno yn berthnasol: Campfa Premiwm/Craidd/Premiwm Dros 60 oed Allfrig = £25
^ Ffi Ymuno yn berthnasol: Ymarfer Corff Grŵp Craidd/Clwb Seiclo = £9.99
+ Ffi Ymuno yn berthnasol: Ffitrwydd Iau = £12
** Ar adegau tawel: Cyn 4pm yn ystod yr wythnos ac unrhyw bryd ar benwythnosau
*** Ffi Ymuno Campfa Achlysurol i Oedolion = £25 *** Ffi Ymuno Campfa Achlysurol Iau = £12