Arbenigwr maeth rhyngwladol a chyflwynydd Ted Talk yn mynychu seminar yn 1891 yn y Rhyl
Cyflwynwyd seminar maeth gan faethegydd byd-enwog a siaradwr Ted Talk, ym mwyty 1891 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.
Roedd HSDdCyf yn falch o groesawu’r maethegydd uchel ei barch, Dr Colin Robertson i fwyty 1891 yr wythnos hon i chwalu chwedlau am nodau maeth a ffitrwydd.
Roedd y sgwrs ym Mwyty 1891 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl yn canolbwyntio ar rôl maeth wrth gyflawni eich nodau iechyd a ffitrwydd, colli pwysau, cryfder a magu cyhyrau, iechyd teulu. Soniodd hefyd am fwydydd wedi’u prosesu a bwydydd wedi’u prosesu’n drwm, sut mae’r diwydiant bwyd wedi sicrhau newid mewn arferion maeth gwael ers y 1950au; y rhan y mae maeth yn ei chwarae mewn iechyd merched, yn enwedig iechyd hormonau; datgloi’r ffaith y tu ôl i’r ffuglen o ran maeth a chwalu chwedlau cyffredin am ffeithiau maeth.
Mae Dr Colin Robertson yn Ffisiolegydd Ymarfer Corff Clinigol enwog ac amlwg, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, Maethegydd, Ymchwilydd Clinigol, gyda chyfoeth o wybodaeth a phrofiad o weithio gyda thimau elitaidd ac unigolion ar draws y byd. Roedd Colin yn ymddangos ar Ted Talk ei hun, ‘The Eternal Suffering of the Endurance Mind’ yn 2016.
Dywedodd Colin: “Mae maeth yn chwarae rhan fawr yn ein hiechyd a’n lles corfforol a meddyliol cyffredinol, ac mae’n siŵr y bydd y sgwrs hon yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i’ch helpu i fod ar eich gorau. Dydw i ddim wedi bod yn y Rhyl ers amser maith a pan wnes i barcio y tu allan i Bafiliwn y Rhyl heddiw, cefais fy syfrdanu, mae’n leoliad anhygoel, o’r safon uchaf gyda golygfa wych o Arfordir Gogledd Cymru! Rydw i mor falch o gael siarad yma gydag aelodau a chwsmeriaid HSDdCyf, mae’n wych gweld cymaint o bobl â diddordeb mewn bod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain!”
Angerdd arbennig Colin yw chwaraeon eithafol, yn arbennig digwyddiadau pellter eithafol. Mae Colin wedi cefnogi a hyfforddi athletwyr o sawl disgyblaeth, o bêl-droed uwch gynghrair, rygbi, beicio proffesiynol, crefft ymladd, alldeithiau Everest a Marathon des Sables, i enwi dim ond rhai.
Dywedodd Jamie Groves: “Roeddem wrth ein bodd yn croesawu Colin i’r Rhyl, ac mae cael siaradwr byd-enwog ym Mwyty 1891, Pafiliwn y Rhyl yn anrhydedd i bob un ohonom yn HSDdCyf. Dyma un arall eto yn ein cyfres serennog o berfformwyr o’r radd flaenaf eleni ym Mhafiliwn y Rhyl. Mae HSDdCyf yn prysur ddod yn weithredwr o ddewis i nifer o arbenigwyr poblogaidd, gyda’r soffistigedigrwydd a’r awyrgylch hamddenol ym Mwyty a Bar 1891, mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau busnes a digwyddiadau corfforaethol.”
Fel cam olaf bŵt camp Eithafol HSDdCyf, a rhan o gyfres sgyrsiau newydd HSDdCyf, agorwyd y seminar i’r cyhoedd, gan gynnwys aelodau HSDdCyf am bris gostyngol.
Video link: https://youtu.be/cneBW7idBMA
Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn cyhoeddi rhestr swyddogol o Sioe Awyr y Rhyl 2022
Mae’r arddangosiadau yn barod, mae’r awyrennau yn tanio ac mae’r torfeydd yn barod am benwythnos o hedfan ysblennydd yn y Rhyl y penwythnos hwn.
Mae Sioe Awyr arobryn y Rhyl yn ôl ac mae Hamdden Sir Ddinbych wedi cyhoeddi’r rhestr swyddogol ar gyfer y penwythnos, gan gynnwys y Saethau Cochion a’r Typhoon sydd wedi’u cadarnhau am y ddau ddiwrnod.
Y Sêr Arian (RLC) Y Tîm Arddangos Parasiwt y Fyddin Sêr Arian Brenhinol fydd yn dechrau’r diwrnod llawn bwrlwm, ac yna bydd Tîm Typhoon yr Awyrlu Brenhinol yn dilyn. Bydd Tîm Raven, y tîm Arddangos Erobatig, yn swyno’r torfeydd ddydd Sadwrn, cyn Hediad Goffa Brwydr Prydain yr Awyrlu Brenhinol, Calidus Autogyro, Arddangosfa Erobatig Steve Carver a diweddglo mawreddog gan Dîm Erobatig yr Awyrlu Brenhinol, y Saethau Cochion.
Bydd Hediad Coffa Brwydr Prydain yr Awyrlu Brenhinol yn cychwyn ddydd Sul, ac yna Arddangosfa Erobatig Steve Carver a Thîm Arddangos Parasiwt y Diafoliaid Coch. Bydd Tîm Typhoon yr Awyrlu Brenhinol yn rhuo i weithredu, ac yna’r Calidus Autogyro, L-39 Aviation a bydd y diwrnod yn dod i ben gan y Saethau Cochion.
Ar Ddydd Sadwrn o 5pm ymlaen, fydd bwyty 1891 a’r Teras yn cynnal parti dilynol yn theatr Pafiliwn y Rhyl, gyda cherddoriaeth fyw i ddawnsio gyda’r nos, bwyd blasus, coctels a golygfeydd godidog o Arfordir Gogledd Cymru.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Chyngor Tref y Rhyl, yn edrych ymlaen at ddod â Sioe Awyr y Rhyl ‘sy’n enwog yn y DU’ yn ôl. Mae sioe Awyr y Rhyl yn cael ei hystyried yn un o’r digwyddiadau mwyaf anhygoel ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Mae Canol Tref y Rhyl a’r Arena Digwyddiadau yn fwrlwm o gyffro bob tro, ac mae cael y Saethau Cochion a’r Typhoon dros y ddau ddiwrnod yn anhygoel! Ni allwn aros i groesawu ymwelwyr a phobl leol i’r Rhyl ac arfordir Sir Ddinbych i fwynhau’r sioe arobryn hon.”
Gall cefnogwyr hedfan archebu seddi unigryw ar Deras 1891 hefyd i wylio’r sioe ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, gyda’r pecynnau arian ac aur ar gael. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly cynghorir pobl i archebu ymlaen llaw i osgoi cael eu siomi. Gallwch ddarganfod mwy ar wefan 1891rhyl.com neu ffoniwch Bafiliwn y Rhyl ar 01745 330000.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.denbighshireleisure.co.uk/cy/sioe-awyr-rhyl/
Bwyty 1891 i ailagor gyda’u cinio dydd Sul arbennig a Sul y Tadau yn cychwyn pethau i ffwrdd
Mae Bwyty a Bar 1891 yn ailagor ei ddrysau ar gyfer bwyta cyn y theatr ac ar gyfer cinio dydd Sul, gyda Sul y Tadau yn nodi dechrau’r profiad bwyta hir-ddisgwyliedig.
Yn dilyn y llifogydd dinistriol ym Mhafiliwn y Rhyl y llynedd, mae llawer o waith adnewyddu wedi cyflwyno gwedd newydd sbon i fwyty a bar 1891 ac mae bellach yn barod i agor i’r cyhoedd.
Gyda’r golygfeydd machlud ar lan y môr yn ymestyn o Landudno’r holl ffordd i fyny arfordir Gogledd Cymru, ailwampio’r bwyty bendigedig, blasau newydd y fwydlen theatr a’u ciniawau dydd Sul enwog, bydd hi’n anodd dod o hyd i brofiad bwyty arall yn y wlad fel 1891 yn Y Rhyl.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Roeddem wedi ein syfrdanu gan yr hyn a ddigwyddodd i’n bwyty blaenllaw hardd ym 1891, a dweud y lleiaf! Fodd bynnag, yng ngwir arddull Hamdden Sir Ddinbych Cyf, rydym wedi dod â 1891 yn ôl hyd yn oed yn well nag o’r blaen, gydag arddull newydd cain a soffistigedig, gan gynnwys bwyty mwy cartrefol. Bydd ein bwyty gyda’r golygfa-môr ar y llawr cyntaf sydd newydd ei addurno a’i adnewyddu’n hyfryd yn agor gyda bwydlen newydd syfrdanol, wedi’i dylunio’n arbennig gan ein Prif Gogydd. Ni allwn aros i groesawu cwsmeriaid yn ôl ar gyfer ein ciniawau dydd Sul enwog a’n ciniawa cyn theatr yr haf hwn!”
Gydag ardal eistedd gartrefol newydd, goleuadau newydd, dodrefn godidog ac ardal bar wedi’i dylunio’n wych, mae bwyty 1891 yn lleoliad perffaith i’r teulu cyfan, p’un a ydynt yn chwilio am ginio dydd Sul neu damaid blasus i’w fwyta cyn sioe ym Mhafiliwn y Rhyl.
Tu allan i 1891, mae’r Teras 1891 yn prysur ddod yn lle i fod ar arfordir y Rhyl, gyda golygfeydd godidog, tapas blasus a choctels yn rhoi naws hafaidd bendigedig, mae’n le perffaith i ymlacio a dadflino ar ôl wythnos brysur.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu bwrdd ewch i 1891rhyl.com
Profiad bwyta awyr agored newydd yn lansio yng Nghaffi R yn Rhuthun
Mae’r Caffi R ar ei newydd wedd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun yn dod â phrofiad bwyta awyr agored cyffrous i’r dref y Gwanwyn hwn.
Yn dilyn ail-lansiad llwyddiannus y caffi llynedd, ciniawa Al-fresco yw’r cam nesaf wrth fynd cymryd adnewyddiad Caffi R i’r lefel nesaf.
Gydag awyrgylch cyfeillgar, amrywiaeth o fwyd bendigedig a bwyty cyfeillgar i deuluoedd (gan gynnwys y ci!), mae Caffi R yn blaguro fel y lle i giniawa yn Rhuthun.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Ers ail-agor, rydym wedi bod wrth ein bodd gyda’r adborth gwych a dderbyniwyd ar gyfer Caffi R yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Mae poblogrwydd y caffi yn ffynnu, a gyda’r dyddiau’n mynd yn hirach a thywydd gwell ar y ffordd, bydd prosiect i ehangu’r caffi i gynnwys profiad bwyta awyr agored newydd yn dechrau’n fuan iawn. Bydd Caffi R yn le perffaith ar gyfer cinio hamddenol al fresco dros fisoedd yr haf, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid (dwy a phedair coes!) i’r datblygiad newydd gwych hwn.”
Bydd y pergola awyr agored newydd gyda goleuadau clasurol yn agor cynnig gyda’r nos i’r caffi, gydag oriau agor estynedig unwaith y bydd y tywydd yn cynhesu.
Bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn canol mis Mawrth a bydd y Caffi y tu mewn yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.denbighshireleisure.co.uk/caffi-r
Yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mhafiliwn Llangollen, mae’r heddlu wedi ymateb wrth gynyddu eu patrolau yn yr ardal
Mae grwpiau o bobl ifanc wedi bod yn dringo i do Pafiliwn Llangollen ac wedi fandaleiddio ardaloedd dan do ac awyr agored y lleoliad.
Hamdden Sir Ddinbych Cyf sy’n gweithredu Pafiliwn Llangollen ar ran Cyngor Sir Ddinbych, ac maent yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i ddal y rhai sy’n cymryd rhan, ynghanol pryderon diogelwch ac yn dilyn yr achosion torri i mewn ar y safle’r wythnos hon. Mae’r cwmni’n galw ar y gymuned leol i fod yn wyliadwrus ac yn annog eu pobl ifanc i barchu eu tref.
Ymhlith y digwyddiadau, mae grŵp o bobl ifanc wedi bod yn torri i mewn i’r adeilad, yn canu’r larymau diogelwch, yn fandaleiddio bolardiau a goleuadau, ac yn torri rhannau o’r babell yn yr arena. Mae un grŵp o bobl ifanc wedi cael eu ffilmio yn dringo ar ben y pafiliwn.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae hyn yn hynod o beryglus a byddem yn cynghori unrhyw un i feddwl ddwywaith cyn ceisio cael mynediad i unrhyw do adeilad cyhoeddus. Bydd hyn yn arwain at erlyniad a gallai arwain at anaf difrifol. Mae’r gwasanaethau brys dan ddigon o bwysau ar hyn o bryd ac mae hwn yn ymddygiad difeddwl a fydd yn darfod mewn trasiedi.
“Ni fyddwn yn sefyll am fandaliaeth o unrhyw fath i’n hadeiladau ac rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru i adnabod yr unigolion dan sylw. Mae Pafiliwn Llangollen yn lleoliad digwyddiadau eiconig sy’n dod â miloedd o bobl i’r sir bob blwyddyn. Mae gennym luniau CCTV a bydd y rhain yn cael ei ddarparu i’r heddlu i allu ymchwilio ymhellach. ”
Pafiliwn Llangollen yw cartref Gŵyl Gerdd Ryngwladol yr Eisteddfod sy’n dod â miloedd o ymwelwyr i’r dref a’r sir bob blwyddyn.
Anogir unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i rannu hyn gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Chwilio newyddion
Newyddion Diweddar
- Cynnig Teyrngarwch Lleol DLL i fywiogi misoedd y gaeaf wrth ddod â gostyngiad 50% ar chwarae ac anturiaethau 28th Tachwedd 2024
- Swyddog Addysg (Canolfan Grefft Rhuthun) 28th Tachwedd 2024
- Hamdden Sir Ddinbych yn dod â phrofiad ffitrwydd sydd y cyntaf o’i fath yng Nghymru i Glwb y Rhyl yn 2025 20th Tachwedd 2024
- DLL yn Cyhoeddi Newid Cast ar gyfer Pantomeim Eleni yn Theatr Pafiliwn y Rhyl 20th Tachwedd 2024
- Chwaraeon, Celfyddydau a Diwylliant dan y chwyddwydr yng Ngwobrau Cymunedau Bywiog DLL 19th Tachwedd 2024