Mae partïon Ibiza yn ôl ar gyfer yr Haf yn y Cwt Traeth, Nova, gydag adloniant byw yn swyno’r torfeydd yng ngardd gwrw orau Gogledd Cymru.

Mae DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn falch iawn o gyhoeddi y byddan nhw’n cynnal dwy barti arall ar thema Ibiza yn y Cwt Traeth Nova, yn dilyn parti cyntaf hynod lwyddiannus y tymor fis diwethaf.

Mae dawnswyr, coctels bendigedig, DJ arddull Ibiza, ffatri hufen iâ a chynigion diodydd blasus, wedi’u cadarnhau ar gyfer dydd Sadwrn, 20fed Gorffennaf, gan osod Cwt y Traeth Nova yn gadarn, fel y lle i fod ar gyfer dathliadau ‘staycation’ yr haf hwn.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae’r Cwt Traeth, Nova yn lleoliad perffaith i ddathlu’r Haf, mae gennym ni lwyth o bethau am ddim i’r teulu cyfan fwynhau’r digwyddiad, yn ogystal â’n bwydlen flasus a’n coctels enwog. Does dim angen i chi fynd dramor i gael naws Ibiza, mae o yma i chi! Mae Nova Prestatyn bellach yn enwog am ein partïon Ibiza ac ni allwn aros i’ch croesawu, Dewch i ni wneud yr haf hwn yn un i’w gofio!”

Bydd tocyn ar gael i’r digwyddiad hwn er mwyn sicrhau’r profiad gorau posibl i fynychwyr y parti. Mae tocynnau am £5 y pen ar gael o RhylPavilion.co.uk neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01745 330000. Gellir hefyd archebu bwrdd ar-lein.