Cyhoeddi Cast Serennog ar gyfer Pantomeim Nadolig Pafiliwn y Rhyl, Sleeping Beauty
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn hapus iawn i ddatgelu’r rhestr ddisglair ar gyfer pantomeim Nadolig hudolus eleni, Sleeping Beauty, yn Theatr Pafiliwn y Rhyl o’r 6ed – 31ain o Ragfyr.
Yn glanio ar y llwyfan ym mis Rhagfyr eleni bydd cast disglair o ffefrynnau’r teulu gan gynnwys y ffefryn teuluol Sherrie Hewson (Benidorm, Loose Women, Hollyoaks, Coronation Street), George Sampson (Britain’s Got Talent, Waterloo Road), Amanda Henderson (Casualty), Jon Courtenay (Britain’s Got Talent), Elektra Fence (Ru Paul’s Drag Race), Kiera-Nicole (Milkshake!), ynghyd â’r dyn digri Dan Whitley!
Ymunodd Amanda Henderson, sy’n dychwelyd ar ôl perfformiad arobryn fel Fairy Feebee yn Jack & The Beanstalk dwy flynedd yn ôl, â’r cast wrth iddynt ddod at ei gilydd am y tro cyntaf yr wythnos hon yn Theatr Pafiliwn y Rhyl. Cafodd y cast serennog gyfle i gwrdd, gwisgo eu gwisgoedd disglair, a dod i adnabod ei gilydd cyn ymarferion ddechrau ym mis Tachwedd.
Dywedodd sylfaenydd ABP Productions, Anton Benson “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda DLL yn Theatr Pafiliwn y Rhyl eto eleni i ddod â hud y Nadolig i’r llwyfan. Mae gennym gast gwych serennog ac roedd y cyffro’n amlwg i’w weld ar ddiwrnod y sesiwn tynnu lluniau ddydd Iau. Rydym yn gwybod y bydd hwn yn banto gwirioneddol ysblennydd ac adloniadol i deuluoedd ei fwynhau.”
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf, “Mae Hamdden Sir Ddinbych yn falch o bartneru ag Anton Benson Productions unwaith eto ar gyfer panto Nadolig eleni. Mae pantomeim adeg y Nadolig yn draddodiad gwerthfawr, ac rydym yn gyffrous i groesawu’r tymor Nadoligaidd a gweld teuluoedd yn chwerthin, ac yn mwynhau hud Sleeping Beauty.”
Bydd Sleeping Beauty yn rhedeg o 6 Rhagfyr i 31 Rhagfyr, gydag amrywiaeth o berfformiadau ysgol, matinee, a gyda’r nos. Mae prisiau gostyngol ar gael ar gyfer perfformiadau ysgol.
I archebu eich tocynnau, ewch i rhylpavilion.co.uk neu ffoniwch ein tîm swyddfa docynnau cyfeillgar ar 01745 330000.
Peidiwch â cholli profiad Nadolig hudolus eleni – mae chwerthin, cerddoriaeth a hwyl Nadoligaidd yn aros amdanoch!


