Dathlu blwyddyn o ffitrwydd â chymorth pŵer yng Nghlwb y Rhyl gyda chynnig cyffrous newydd i aelodau
Mae DLL yn dathlu pen-blwydd blwyddyn eu brand technoleg ymarfer corff â chymorth pŵer poblogaidd ‘Assist Fit’ yng Nghlwb y Rhyl, gyda lansiad o aelodaethau newydd yn dechrau o £9.99 y mis.
Mae Assist Fit, sydd wedi’i leoli yng Nghlwb y Rhyl, wedi’i gynllunio i fod yr ateb perffaith i’r rhai sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor a’r rhai nad ydynt yn teimlo’n barod ar gyfer amgylchedd campfa arferol. Mae technoleg ymarfer corff â chymorth pŵer yn ddiogel i bob gallu, gan nad oes angen i ddefnyddwyr ddarparu’r grym cymhellol i oresgyn inertia. Nid oes unrhyw bentyrrau pwysau i’w rheoli, dim ond technoleg ddiogel ac effeithiol, sy’n darparu ystod symudiad â chymorth gweithredol i ddefnyddwyr. Gall defnyddio Assist Fit helpu i feithrin hyder a helpu aelodau i symud ymlaen i weithgareddau pellach yn y dyfodol. I aelodau sy’n chwilio am ymarfer corff llawn effaith isel, mae Assist Fit yn darparu’r ‘llaw gymorth’ berffaith i gael eu cryfder yn ôl.
I ddathlu llwyddiant Assist Fit, mae DLL yn lansio tair aelodaeth newydd, gan gynnwys aelodaeth Cyplau ac aelodaeth penwythnos. Mae aelodaethau’n dechrau am £9.99 ac maent ar gael o’r 8fed Mehefin.
Yn ei flwyddyn gyntaf, mae Assist Fit wedi profi’n hynod boblogaidd o fewn y gymuned leol, gan ddarparu nid yn unig fuddion iechyd cadarnhaol, ond hefyd cyfle i gymdeithasu ag aelodau eraill. Dros y deuddeg mis cychwynnol, mae adborth gan ddefnyddwyr wedi bod yn arbennig, gyda llawer yn ymweld yn rheolaidd ac yn canfod bod y gampfa yn lle cyfforddus a hygyrch, gan ganiatáu iddynt gymryd rhan mewn ymarfer corff rheolaidd a chreu newidiadau ymddygiad cadarnhaol.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Mae DLL wedi ymrwymo erioed i ddod â chynigion hamdden i’w aelodau gyda’r nod o helpu i wella ffitrwydd, iechyd a lles meddyliol yn ein cymunedau. Mae Assist Fit wedi’i gynllunio i ganolbwyntio ar gwsmeriaid ag anghenion ffitrwydd penodol, lle nad yw ein hamgylchedd campfa yn addas ar eu cyfer ar hyn o bryd ac rydym wedi bod yn falch iawn o glywed am yr effaith cadarnhaol y mae Assist Fit wedi cael ar ein haelodau. Yn fwy cadarnhaol fyth, yw’r gymuned wych sydd wedi’i chreu o fewn amgylchedd Assist Fit. I ymestyn hyn ymhellach fyth, rydym wedi creu tair categori aelodaeth newydd yn benodol ar gyfer Assist Fit, ac yn gobeithio dod â manteision cadarnhaol y dechnoleg wych hon i fywydau hyd yn oed mwy o bobl.”
Mae manylion llawn yr aelodaethau newydd ar gael ar wefan DLL. Mae sesiynau blasu am ddim ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig ar Assist Fit, i archebu cysylltwch â Chlwb Y Rhyl ar 01824 774871.
