Bydd aelodau yn DLL yn gallu mwynhau profiad ffitrwydd elitaidd newydd cyffrous wrth i gampfa newydd sy’n defnyddio technoleg arloesol gael ei lansio yng Nghlwb Nova, Prestatyn.
 
Mae’r gampfa newydd gyffrous, sydd wedi’i lleoli yn atyniad blaenllaw DLL, Nova, Prestatyn, wedi cael trawsnewidiad llwyr, i ysgogi ac ysbrydoli aelodau. Nodweddion goleuo modern newydd, ystafelloedd newid newydd moethus a’r offer a’r dechnoleg ddiweddaraf sy’n rhoi cyfle i aelodau hyfforddi fel athletwyr elitaidd.
 
Gyda’i gilydd, mae DLL a’i bartner Technogym wedi cyflwyno oes newydd o ffitrwydd i Glwb Nova, gan ddod ag amrywiaeth o’r offer arloesol diweddaraf, trawsnewid y cyfleusterau presennol yn llwyr a darparu gofod newydd ffres ac amgylchedd ysgogol i’w aelodau. Yn dilyn ei drawsnewidiad, mae’r gampfa newydd bellach yn cynnwys estyniadau cyffrous o linellau presennol offer Technogym Pure Strength ac Excite Live.
 
Mae ardal HITT newydd sbon wedi’i chreu gyda rhywfaint o offer newydd anhygoel i ganiatáu ymarferion mwy swyddogaethol a hybrid. Mae’r ardal pwysau rhydd hefyd bellach yn cynnwys ystod ehangach o ddumbbells, hanner raciau Olympaidd, mainc Pure Strength a llawer, llawer mwy!
 
Mae’r buddsoddiad hwn yn nodi’r ail ddatblygiad mawr yn atyniad Nova mewn dim ond dau fis, yn dilyn lansiad siop Caban y Traeth newydd ac mae’n parhau i amlygu enw da’r atyniad arbennig.
 
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Rydym yn hyderus y bydd aelodau Nova yn cael eu hysbrydoli gan yr offer newydd a’r dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael iddynt yng Nghlwb Nova! Fel bob amser, mae ein haelodau’n mwynhau ansawdd a gwerth heb ei ail, ac mae ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cyfleusterau yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Mae’r uwchraddio yng Nghlwb Nova yn dod â lefel hollol newydd o gyfleoedd hyfforddi ac ymarfer corff i’n haelodau ac wrth gwrs, mae ein tîm cyfeillgar o hyfforddwyr yn barod i helpu pawb i gael y gorau o’u hymarfer corff. I ategu’r cyfleusterau campfa gwych, rydym hefyd wedi lansio ein haelodaeth Nova Classic newydd sbon – y cyfle perffaith i ymuno â Chlwb Nova gyda gwerth anhygoel am eich arian!”