Gweithdai Celf Cyffrous a Goleuo Adeiladau i Gefnogi Wythnos Gweithredu ar Ddementia
Mae atyniadau ledled Sir Ddinbych yn goleuo mewn glas, ac mae cyfres o weithdai celf cyffrous yn cael eu cyflwyno gan DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf), mewn partneriaeth â Chynghrair Cyfeillion Ysbyty Dinbych, i gefnogi Wythnos Gweithredu ar Ddementia.
Mae Wythnos Gweithredu ar Ddementia, sy’n rhedeg o’r 18fed i’r 24ain o Fai, yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo diagnosis cynnar a chefnogi pobl yr effeithir arnynt gan ddementia ledled y DU.
Mae Tîm Celfyddydau Cymunedol DLL, mewn partneriaeth â Chynghrair Cyfeillion Ysbyty Dinbych, wedi cynnal cyfres o 11 gweithdy celf creadigol ar Ward Famau Ysbyty Dinbych, ynghyd â phum sesiwn dan arweiniad cerddorion, diolch i grant Llesiant Gaeaf DVSC. Anfonodd ysgolion lleol, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol Plas Brondyffryn, Ysgol Twm O’r Nant, Ysgol Frongoch ac Ysgol y Parc, grwpiau bach o ddisgyblion i’r gweithdai, lle buont yn gweithio ochr yn ochr â staff a chleifion, dan arweiniad hwyluswyr yr artistiaid.
Roedd y sesiynau celf a chrefft yn llwyddiant mawr, a gwnaeth y staff sylwadau ar sut roedd y rhyngweithio rhwng y cleifion, y mae llawer ohonynt yn byw gyda dementia, a’r disgyblion ifanc yn fuddiol i’r ddau. Nododd yr artist Jude Wood fod “sgyrsiau a mewnwelediadau na allech chi gynllunio ar eu cyfer yn codi, pobl hŷn yn gweld eu hunain yn rhai o’r disgyblion ifanc, straeon bywyd yn cael eu rhannu, chwilfrydedd yn ei gilydd yn cynyddu ac mae stereoteipiau a rhagdybiaethau am bob un yn diflannu”.
Yn ogystal â gwaith Celfyddydau Cymunedol DLL, mae tîm Chwaraeon Cymunedol DLL hefyd wedi hwyluso sesiynau Boccia yn y Cherished Memories, Grŵp Cymorth Cyfoedion Dementia yn y Rhyl.
I gefnogi Wythnos Gweithredu Dementia ymhellach, bydd Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, rhaeadr yr Arena Digwyddiadau, Canolfan Grefftau Rhuthun, a llochesi arfordirol Sir Ddinbych i gyd yn goleuo mewn glas.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein tîm Cymunedau Bywiog wedi gwneud gwaith anhygoel gyda’r rhai sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Mae’r sesiynau yn Ysbyty Dinbych yn enghraifft bellach o’u hymrwymiad i ymgysylltu â’n cymunedau lleol, ac i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Nid oes gan lawer o bobl sy’n byw gyda dementia ddiagnosis ac maent yn colli allan ar y cymorth sydd ar gael iddynt. Drwy dynnu sylw at Wythnos Gweithredu ar Ddementia, mae DLL yn falch o fod yn gweithio gyda’r rhai sy’n byw gyda dementia yn ein hardal leol. Byddwn hefyd yn goleuo adeiladau mewn glas ar draws y sir i gefnogi’r achos pwysig hwn ymhellach”.
Ar ddydd Iau 28ain Mai, mae DLL yn cynnal cwrs Ffrindiau Dementia Cymunedol am 2pm yn Hamdden Dinbych. Mae’r sesiwn 45 munud am ddim hon ar agor i unrhyw un yn y gymuned leol a bydd yn caniatáu ichi ddysgu mwy am ddementia, sut y gall effeithio ar rywun a’r ffyrdd bach y gallwch chi helpu. I archebu lle, anfonwch e-bost at Becky yn DVSC Becky@dvsc.co.uk
