Mae Llyfr Ryseitiau wedi cael ei greu fel rhan o brosiect adsefydlu yng ngogledd Cymru, gan ddod â theuluoedd at ei gilydd o gefndiroedd amrywiol i rannu ryseitiau a phrofiadau. 

Mae Tîm Celfyddydau Cymunedol HSDd wedi cydweithio â Thîm Adsefydlu Cyngor Sir Ddinbych a Thîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru, gyda chefnogaeth grant trwy gyllid Loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru i greu llyfr ryseitiau o’r enw O’r Byd i Gymru.

Mae’r llyfr coginio hwn yn dathlu cysylltiadau trwy fwyd, gan ddod â phobl at ei gilydd i rannu atgofion, traddodiadau a hanesion ar draws cenedlaethau a diwylliannau. Crëwyd y llyfr hwn gan deuluoedd sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac mae’r ryseitiau yn adlewyrchu amrywiaeth ein cymuned. Mae pob pryd yn adrodd stori am gartrefi, siwrnau a dechreuadau newydd. 

Gweithiodd y teuluoedd gyda’r artist Jude Wood dros dri mis yn rhannu straeon a chreu gwaith celf a ryseitiau ar gyfer y llyfr, gan wahodd pobl i archwilio blasau newydd a phrofi’r diwylliannau a’r traddodiadau sydd y tu ôl i bob pryd.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych: “Mae bwyd yn dod â phawb at ei gilydd ac mae’n ffordd wych o rannu profiadau, diwylliannau a hanesion ar draws cenedlaethau. Datblygwyd y llyfr coginio hwn fel rhan o brosiect adsefydlu yng ngogledd Cymru, gan ddod â theuluoedd at ei gilydd o gefndiroedd amrywiol i rannu ryseitiau a phrofiadau. Creodd y prosiect gyfleoedd i bobl gysylltu, meithrin hyder a dathlu eu treftadaeth. Gyda’i gilydd, mae’r casgliad hwn yn amlygu cryfder ac amrywiaeth y gymuned a pha mor bwerus yw bwyd i ddod â phobl ynghyd.”

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:  “Mae’r prosiect hwn yn amlygu canolbwynt y gwaith adsefydlu a wnawn yn Sir Ddinbych – sef helpu i groesawu pobl a gwneud iddynt deimlo’n gysylltiedig â’u cymunedau a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae ‘O’r Byd i Gymru’ yn ddathliad pwerus o ddiwylliant, gwytnwch a phrofiadau a rennir, ac rwy’n falch o weld cydweithrediad mor ystyrlon yn dod â phobl ynghyd fel hyn.”

Dyddiad yr Wythnos Ffoaduriaid eleni yw 15 – 21 Mehefin a hon yw’r ŵyl gelfyddydol a diwylliannol fwyaf yn y byd sy’n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwytnwch ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches.

Wedi’i sefydlu yn y DU yn 1998, cynhelir Wythnos Ffoaduriaid bob blwyddyn o gwmpas Diwrnod Ffoaduriaid y Byd (20 Mehefin), ac ers hynny mae wedi tyfu i fod yn fudiad byd-eang gyda thros 2 filiwn o gyfranogwyr, ar draws dros 20 o wledydd.