I ddathlu Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr sy’n rhedeg o’r 1af i’r 7fed o Fehefin, mae DLL yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwaraeon i wirfoddoli a chefnogi eu cymunedau lleol.
Mae Tîm Chwaraeon Cymunedau Bywiog DLL yn gweithio ledled Sir Ddinbych yn helpu i gefnogi sesiynau chwaraeon cymunedol, gweithgareddau gwyliau, digwyddiadau hwyl i’r teulu, sesiynau chwarae ar y traeth, gwyliau ac i gyflwyno sesiynau Bikeability. Mae’r tîm yn hyrwyddo rhaglen Cymunedau Bywiog sydd wedi’i chynllunio’n arbennig i annog ffyrdd o fyw iach, gwella lles a darparu cyfleoedd cynhwysol ar gyfer cyfranogiad. I helpu gyda’r gwaith pwysig hwn, mae DLL yn chwilio am wirfoddolwyr o’r gymuned a all gynnig eu hamser a’u sgiliau.
 
Fel y mae miliynau o bobl ledled y DU wedi darganfod, gall gwirfoddoli fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, ac i roi yn ôl i’r gymuned leol. Gall helpu i feithrin sgiliau personol a phroffesiynol gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, arweinyddiaeth a datrys problemau. Yn ogystal, fel gwirfoddolwr mewn chwaraeon cymunedol, byddech chi’n helpu i greu amgylchedd cefnogol lle gall plant, yn benodol, feithrin hyder, gwydnwch a chymryd y camau cyntaf tuag at fwynhad gydol oes o weithgarwch corfforol.
 
Mae tîm Cymunedau Bywiog DLL yn chwilio am wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn helpu i gefnogi eu rhaglenni a ariennir gan Actif Gogledd Cymru. Mae Actif Gogledd Cymru yn ceisio dod â phartneriaid o wahanol sectorau ledled Gogledd Cymru at ei gilydd, er mwyn cael effaith fwy ar gymunedau. Mae rôl Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol Gwirfoddol DLL yn cynnig y cyfle i weithio gyda thîm ymroddedig a chyfeillgar y cwmni ledled y sir. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond modd cyfeillgar a hawdd mynd ato a diddordeb mewn bod yn egnïol a chwrdd â phobl newydd.
 
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL, “Mae Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr yn ddathliad o’r miliynau o wirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser a’u sgiliau’n hael i gefnogi cymunedau lleol ledled y wlad. Mae tîm Cymunedau Bywiog DLL wedi ymrwymo i greu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig, boed drwy’r celfyddydau, chwaraeon neu iechyd a lles. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd y cam pwysig nesaf hwnnw i chlicio ar y ddolen isod. Does dim ots os allwch chi roi awr yr wythnos neu ddeg, bydd ein tîm cyfeillgar wrth eu bodd yn eich croesawu a phwy a ŵyr, gall gwirfoddoli arwain at ddiddordebau newydd, ffrindiau newydd neu hyd yn oed yrfa newydd!”
 
Am ragor o wybodaeth, cwblhewch y ffurflen mynegiant diddordeb ar wefan DLL Gwirfoddoli – Hamdden Sir Ddinbych Cyf neu anfonwch e-bost at cymunedau.bywiog@dll.co.uk. Mae angen gwiriad DBS ar gyfer pob rôl wirfoddoli, a rhaid i chi fod yn 14 oed neu’n hŷn. Bydd yr oriau’n amrywio a gall y DLL weithio o gwmpas argaeledd.