Bu miloedd o breswylwyr lleol ac ymwelwyr yn dathlu’r haul gyda HSDd yr wythnos ddiwethaf, wrth i’r haf gyrraedd o’r diwedd gyda thywydd poeth. Am unwaith roedd y tymereddau o’n plaid dros wyliau’r ysgol, ac fe agorodd HSDd ei ddrysau i groesawu preswylwyr lleol ac ymwelwyr o bob cwr o’r DU.

Fe agorodd Pad Sblasio SC2 ar gyfer tymor yr haf dros benwythnos Gŵyl y Banc, a gyda’r tymereddau uchel, roedd y sesiynau yn llawn gydol yr wythnos. Roedd yr ardal sblasio boblogaidd yn lle perffaith i oeri rhywfaint, gadael i’r rhai bach losgi’u hegni tra bod yr oedolion yn gallu ymlacio. Roedd y parc dŵr dan do’n brysur hefyd, gyda miloedd wrth eu boddau gyda’r cafnau a’r llithrennau ac yn mwynhau’r dŵr!

Roedd Caban y Traeth gan HSDd sydd newydd ei agor yn y Nova yn rhoi ymdeimlad hiraethus o hwyl traeth traddodiadol ym Mhrestatyn, gyda’i ddetholiad blasus o hufen iâ Mario, coffi Costa ac anrhegion traeth. Gan fod popeth sydd ei angen arnoch i gael diwrnod ar y traeth yno, roedd Caban y Traeth yn llwyddiant arall gan HSDd!

Cafodd y tîm Cymunedau Bywiog hefyd hwyl yn yr haul yr wythnos ddiwethaf, gan gyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol yn yr awyr agored ar draws y Sir. Roedd llawer o blant a theuluoedd yn bresennol mewn digwyddiad ar y traeth yn y Rhyl gan dreulio prynhawn heulog braf yn mwynhau eu hunain yn cymryd rhan mewn gemau traeth. Fe ymunodd y tîm â phartneriaid (e.e. Gwasanaethau Ieuenctid CSDd, Chwarae CSDd, Grwpiau Cymunedol) i fynychu tair sesiwn gymunedol i deuluoedd yng Nghorwen, Rhuthun a Dinbych, lle buont yn helpu i gyflwyno gweithgareddau awyr agored e.e. criced, pêl-droed, tennis a seiclo.

Roedd bwyty Cwt y Traeth a Theras 1891 HSDd, sydd yn enwog am eu lleoliadau godidog a golygfeydd di-guro o arfordir Gogledd Cymru, yn falch o groesawu cwsmeriaid am brydau ysgafn, bwyd i fynd a swper blasus. Fe ymlaciodd nifer o gwsmeriaid gan fwynhau’r tywydd braf neu wylio’r haul yn machlud gyda diod oer. Gyda bwydlen Spritz newydd a bwydlen coctêls ar ei newydd wedd, fe agorodd bar coctêls gwych Cwt y Traeth, Mojitos, am ei benwythnos cynta’r flwyddyn, ac fel bob amser, bu’n lleoliad delfrydol i flasu amrywiaeth o goctêls a moctêls, yn cynnwys y clasuron. 

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych:  “Pan mae’r haul yn tywynnu, does yna unlle gwell nag arfordir Gogledd Cymru! Felly os ydych chi eisiau mwynhau hwyl a gemau i’r teulu, mwynhau pryd blasus, neu eistedd ger y môr gyda choctêl yn eich llaw, mae yna rywbeth i bawb yn HSDd!  Fel bob amser, fe fydd tîm HSDd yn gwneud ei orau i ddarparu haf i’w gofio i bawb, felly diolch i chi am eich cefnogaeth ac rydym ni’n edrych ymlaen at eich gweld yn ein lleoliadau’n fuan eto!”