Miloedd yn mwynhau parc dŵr a phad sblasio SC2 Y Rhyl dros benwythnos Gŵyl y Banc
Fuodd miloedd o blant a theuluoedd yn y Pad sblasio a’r parc dŵr yn SC2 dros penwythnos cyntaf y tymor yn Y Rhyl, gyda dros 500 o docynnau am ddim a roddwyd i drigolion ac ymwelwyr fel rhan o gynigion Teyrngarwch Lleol DLL.
Gyda gwres uwch na 25 gradd dros y tri diwrnod, gwelodd penwythnos cyntaf ailagor y Pad sblasio ar gyfer tymor yr haf filoedd o ymwelwyr yn mwynhau’r pad sblasio awyr agored dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Rhoddwyd DLL dros 500 o docynnau am ddim ar-lein fel rhan o’u cynigion teyrngarwch lleol, i groesawu cwsmeriaid yn ôl i’r Pad Sblasio awyr agored SC2 ddydd Sadwrn (23ain Mai). Gyda’r tymereddau a chynwrf yn codi’n sydyn, cafodd yr holl docynnau eu cipio mewn llai na 10 munud.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau’r Pad Sblasio awyr agored y penwythnos hwn! Gweithiodd ein tîm yn SC2 yn galed iawn i gael y Pad Sblasio ar waith ar gyfer gwyliau hanner tymor ac nid oes dim byd gwell ganddyn nhw na gweld yr ardal gyfan yn llawn plant a theuluoedd hapus yn cael hwyl yn yr haul! Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gynnig sesiynau am ddim i drigolion lleol ar ôl 4pm yn ystod yr wythnos. Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn gweithio yn ystod y dydd, ac rydym eisiau iddynt gael cyfle i gael hwyl gyda’u teuluoedd ar ddiwedd eu diwrnod. Nawr bod y Pad Sblasio ar agor, allwn ni ddim aros i weld mwy o drigolion ac ymwelwyr yn mwynhau Haf gwych arall yn y Rhyl!”
Bydd Pad Sblasio SC2 ar agor ar benwythnosau a gwyliau tan ddiwedd yr haf (yn dibynnu ar y tywydd), gyda sesiynau am ddim ar ôl 4pm bob dydd wedi’u hanelu at bobl leol sy’n gweithio yn ystod y dydd. Bydd tocynnau ar gyfer y sesiynau am ddim yn cael eu rhyddhau am 9yb yn ddyddiol a gellir archebu sesiynau ar-lein ar www.SC2rhyl.co.uk.
