Mae DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn hyrwyddo nofio diogel yr haf hwn drwy annog rhieni i gofrestru eu plant ar Academi Nofio DLL.
 
Mae DLL yn cefnogi ymgyrch Wythnos Atal Boddi RLSS sy’n rhedeg o 13-20 Mehefin, ac sy’n darparu cyngor diogelwch dŵr hanfodol i bobl ifanc ac yn rhoi sgiliau a gwybodaeth iddynt fwynhau dŵr yn ddiogel.
 
Trwy’r Academi Nofio, mae DLL yn cynnig rhaglen hwyliog a chynhwysfawr o wersi i nofwyr, o fabanod i oedolion ac mae ganddo rywbeth ar gyfer pob gallu. Mae hyfforddwyr arbenigol DLL yn cyflwyno gwersi deniadol sy’n dilyn rhaglen Dysgu Nofio Cymru, gan sicrhau amgylchedd hwyliog, diogel a chefnogol i bob oed. Mae unrhyw un sydd wedi cofrestru i’r Academi Nofio hefyd yn derbyn nofio am ddim mewn unrhyw sesiwn nofio gyhoeddus ym mhyllau DLL – y cyfle perffaith i wella ffitrwydd ac ymarfer sgiliau!
 
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr, DLL “Un o’r sgiliau bywyd pwysicaf yw dysgu nofio. Nid yn unig yw nofio’n hwyl, ond mae’n ffordd wych o ymarfer corff gyda llawer o fanteision i iechyd corfforol a meddyliol. Mae’r haf yn amser gwych i fwynhau’r dŵr, boed yn eich pwll lleol neu yn yr awyr agored yn y môr, afonydd neu lynnoedd tra ar wyliau. Mae dysgu nofio yn sgil bywyd hynod bwysig ac yn DLL mae gennym Academi Nofio lwyddiannus iawn, gyda hyfforddwyr gwych a chyfeillgar. Ni waeth beth yw eich oedran neu gallu, gallwn ni helpu i wella eich sgiliau nofio a gwneud gwersi’n hwyl! Does dim byd mwy pleserus na diwrnod ar y traeth, ac yn enwedig gyda’n hagosrwydd at arfordir hardd Gogledd Cymru. Mae mwynhau’r dŵr yn ddiogel yn hynod bwysig, ac Academi Nofio DLL yw’r ffordd berffaith o ddysgu!”
 
Am ragor o wybodaeth am yr Academi Nofio, gweler gwefan DLL https://denbighshireleisure.co.uk/cy/academi-nofio-dll/ neu anfonwch e-bost at nofio@dll.co.uk