Oktoberfest yn dychwelyd i 1891 Y Rhyl oherwydd y galw poblogaidd
Codwch stein a pharatowch i ddathlu gyda ni, wrth i 1891 Y Rhyl gael ei drawsnewid yn neuadd gwrw Bafaraidd draddodiadol am un noson bythgofiadwy ym mis Hydref.
Gall gwesteion fwynhau profiad Oktoberfest ynghyd â bwyd Bafaraidd calonog, cwrw Almaenig traddodiadol, steins ac adloniant byw gan fand Oompah bywiog.
Bydd Bratwurst, schnitzel a spätzle yn rhai o’r seigiau blasus ar gael, ochr yn ochr â detholiad o gwrw Almaenig traddodiadol sy’n sicr o gadw’r dathliadau’n llifo drwy gydol y nos.
Mae’r dathliadau’n dechrau am 6pm, gyda’r drysau’n agor am 5pm, ar nos Wener 30 Hydref. Bydd y bar yn aros ar agor tan yn hwyr, gan roi digon o amser i westeion ddawnsio, canu a mwynhau awyrgylch bywiog Oktoberfest.
Anogir gwisgoedd ffansi yn fawr, felly lluchiwch y llwch oddi ar eich lederhosen a’ch dirndls, casglwch eich ffrindiau a pharatowch ar gyfer noson o hwyl ac adloniant Bafaraidd.
I’r rhai sy’n chwilio am brofiad Oktoberfest llawn, mae pecyn bwyta traddodiadol ar gael am £27.50, sy’n cynnwys dewis o dri phryd Almaenig a gwirod gaeafol am ddim. Fel arall, gall gwesteion ymuno â’r dathliadau am £10 yn unig, sy’n cynnwys mynediad i’r digwyddiad, adloniant byw a gwirod gaeafol am ddim.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf): “Rydym wrth ein bodd yn dod ag Oktoberfest yn ôl i 1891 Y Rhyl am ei bedwaredd flwyddyn. Mae wedi dod yn un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau DLL a 1891, gan ddenu ymwelwyr o bob cwr o’r rhanbarth am noson wych o fwyd, cerddoriaeth a dathliad. Allwn ni ddim aros i groesawu gwesteion yn ôl am brofiad Oktoberfest cofiadwy arall.”
Disgwylir i docynnau werthu’n gyflym, felly argymhellir archebu’n gynnar i osgoi siom
