Sêr y Teledu a Ffefrynnau Panto’n dod i ddisgleirio yn Aladdin ym Mhafiliwn y Rhyl
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn falch o gyhoeddi mai Aladdin fydd y pantomeim teuluol yn Theatr y Pafiliwn y Rhyl eleni, yn swyno cynulleidfaoedd ar antur hudolus o’r 5 – 31 Rhagfyr 2026.
Yn llawn gwisgoedd disglair, comedi hynod ddoniol, effeithiau arbennig syfrdanol a digonedd o hwyl yr ŵyl, fe fydd Aladdin yn ddigwyddiad teuluol na ddylech ei fethu y Nadolig hwn.
Yn cael ei gynhyrchu gan Anton Benson Productions sydd wedi ennill gwobrau, mae’r sioe eleni yn cynnwys cast anhygoel gan gynnwys aelod o banel Loose Women a chantores Eternal Kelle Bryan, ffefryn Coronation Street Peter Ash, enillwyr Britain’s Got Talent Ashleigh a Tapas, seren Casualty a ffefryn panto Amanda Henderson, ynghyd â Dan Whitley ac Alex Aram.
Mae’r tocynnau ar werth yn awr, gyda’r prisiau’n dechrau o £15, gan olygu y bydd yn wledd Nadoligaidd perffaith i’r teulu, ffrindiau ac ymwelwyr sydd eisiau dathlu gyda’i gilydd.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym yn falch o gyflwyno pantomeim anhygoel arall yn Theatr y Pafiliwn y Rhyl y Nadolig hwn. Mae pantomeim yn draddodiad pwysig i deuluoedd ledled Gogledd Cymru a thu hwnt, ac rydym yn falch o barhau i ddarparu adloniant o’r radd flaenaf sy’n creu atgofion melys i gynulleidfaoedd o bob oed. Gyda chast anhygoel, nodweddion cynhyrchu gwych a’r holl hud y mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl o bantomeim yn Theatr y Pafiliwn y Rhyl, mae Aladdin yn argoeli i fod yn un o’n sioeau gorau eto.”
Meddai llefarydd o Anton Benson Productions: “Rydym yn falch o ddychwelyd i Bafiliwn y Rhyl y Nadolig hwn gyda’n pantomeim Nadoligaidd mwyaf erioed. Mae gennym gast llawn doniau, digonedd o chwerthin a charped hud newydd syfrdanol… a fydd wir yn anhygoel!”
P’un ai eich bod yn ymuno ag Aladdin ar ei daith hud am y tro cyntaf erioed neu’n parhau â thraddodiad teuluol pwysig, fe fydd y cynhyrchiad eleni’n darparu antur Nadoligaidd yn llawn cerddoriaeth, comedi, effeithiau arbennig a digon o gyfranogiad gan y gynulleidfa.
Cynhelir perfformiadau o’r 5-31 Rhagfyr 2026 yn Theatr y Pafiliwn y Rhyl, gyda thocynnau ar gael yn awr gyda’r prisiau’n dechrau o £15.
Archebwch yn gynnar i gael y seddi gorau a phrofi hud Aladdin y Nadolig hwn.






