Curo’r Gwres yn y Pad Sblasio yn SC2 gyda sesiynau pris gostyngedig i breswylwyr
Yn dilyn sesiynau a werthodd allan ym mis Mehefin, bydd DLL yn agor y Pad Sblasio yn SC2 am dri diwrnod ychwanegol yr wythnos hon gyda hyd yn oed mwy o sesiynau pris gostyngedig i breswylwyr.
Gyda rhagolygon gwych arall o’n blaenau ar gyfer yr wythnos hon, bydd DLL yn agor y Pad Sblasio awyr agored yn SC2 o ddydd Mercher i ddydd Gwener (8fed – 10fed Gorffennaf) fel y gall teuluoedd lleol wneud y gorau o’r heulwen!
Mae DLL yn cynnig cyfle i deuluoedd a ffrindiau oeri a mwynhau amser gwych gyda’i gilydd gyda sesiynau Pad Sblasio pris gostyngedig i breswylwyr o £3 y pen, gan roi cyfle i gynifer o bobl â phosib fwynhau popeth sydd gan y Pad Sblasio i’w gynnig!
Mae sesiynau y Pad Sblasio yn dechrau am hanner dydd, yn berffaith ar gyfer plant bach ac yn aros ar agor tan 6pm, gan roi cyfle i blant hŷn chwarae yn y dŵr fel ar ôl ysgol.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Roedd ein sesiynau yn ystod yr wythnos wedi gwerthu allan mis diwethaf ac nid oes dim byd gwell gennym na gweld y Pad Sblasio yn llawn gwynebau hapus! Gyda rhagolygon gwych o’n blaenau ar gyfer yr wythnos hon, rydym am roi cyfle i hyd yn oed mwy o bobl leol ddod i fwynhau’r Pad Sblasio cyn y cyfnod gwyliau. Felly, paratowch ar gyfer yr amser gorau a manteisiwch ar y cyfle perffaith i fwynhau hwyl yr haf am bris gwych! Archebwch eich sesiwn heddiw!”
Mae sesiynau ar gael i’w harchebu ar-lein heddiw ar SC2Rhyl.co.uk
