Hamdden Sir Ddinbych yn diolch i grŵp ‘cyfeillion y theatr’ am eu hymrwymiad dros y 30 mlynedd diwethaf
Ers sawl blwyddyn, mae Theatr y Pafiliwn, y Rhyl, wedi bod yn ffodus iawn o fwynhau cefnogaeth ac ymrwymiad Cyfeillion Theatr y Pafiliwn, cymdeithas wirfoddol, sy’n cynnwys pobl o bob math o gefndiroedd, sydd wedi dod at ei gilydd trwy angerdd dros theatr a’r celfyddydau.
Trwy eu gweithgareddau codi arian, sydd wedi cynnwys nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol fel boreau coffi a chwisys, mae’r Cyfeillion wedi gallu cefnogi Theatr y Pafiliwn gyda sawl agwedd ar eu gweithrediadau – hyrwyddo, rheoli llwyfan, materion technegol ac arlwyo, gan enwi dim ond rhai ohonynt.
Dros y blynyddoedd, mae’r Cyfeillion wedi noddi amrywiaeth o bethau ymarferol, fel hysbysfyrddau a chadeiriau olwyn, ac wedi ariannu eitemau mwy fel goleuadau deallus a llenni llwyfan. Mae’r theatr hefyd wedi elwa o’u cyfraniad at brosiectau ailaddurno yn yr awditoriwm a’r ystafelloedd gwisgo. Nid dim ond cefnogaeth ariannol maen nhw wedi’i darparu fodd bynnag, ac ar nifer o achlysuron, mae aelodau’r grŵp wedi gwirfoddoli i ddarparu cymorth ymarferol mewn meysydd fel gwerthu rhaglenni neu roi taflenni mewn amlenni ac ati. Ers iddynt ddechrau, mae’r Cyfeillion wedi gwneud popeth a allant i hyrwyddo Theatr y Pafiliwn.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y grŵp Cyfeillion eu penderfyniad i ddod â’r Gymdeithas i ben ym mis Rhagfyr 2021. Er bod hyn yn newyddion trist iawn mewn sawl ffordd, hoffai tîm Theatr y Pafiliwn fynegi eu diolch am flynyddoedd lawer o deyrngarwch gwych a ddangoswyd gan y Cyfeillion. Mae’r tîm hefyd yn falch bod nifer o’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o’r grŵp Cyfeillion wedi penderfynu parhau yn eu rolau gyda’r Theatr, a byddant yn parhau i ddarparu’r gefnogaeth hollbwysig.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf, “Hoffai Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig, ac yn benodol ein tîm yn Theatr y Pafiliwn, y Rhyl, ddiolch i holl aelodau’r grŵp Cyfeillion, rhai’r gorffennol a rhai presennol, am yr ymrwymiad gwych a’r gwaith caled maen nhw wedi’i ddangos dros y blynyddoedd. Nid oes amheuaeth bod y grŵp wedi chwarae rhan fawr wrth feithrin enw da rhagorol y Pafiliwn ym myd y Celfyddydau, a byddwn ni’n hiraethu’n fawr am eu presenoldeb y tu ôl i’r llenni.”
Dywedodd Dave Simmons, cyn Gadeirydd y grŵp Cyfeillion, “Ar ôl gwneud y penderfyniad anodd i ddod â grŵp Cyfeillion Theatr y Pafiliwn i ben, rydym yn edrych yn ôl ar ein cyflawniadau ar ran y theatr gyda balchder mawr. Fel ased pwysig iawn i’r Rhyl a’r gymuned Celfyddydau ehangach, rydym wrth ein bodd bod ein gwaith gyda Theatr y Pafiliwn wedi helpu i ddod â mwynhad i gynifer o bobl, a helpu i gynnal y safonau uchel mae wedi dod yn adnabyddus amdanynt.”
Mae gan Theatr y Pafiliwn gymuned weithgar iawn o wirfoddolwyr, ac mae Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig yn bwriadu parhau â hyn. Mae nifer o rolau gwirfoddolwyr ar gael gennym, a gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â ni trwy ein tudalen i wirfoddolwyr ar y wefan denbighshireleisure.co.uk/cy/gwirfoddoli/
Chwarae Antur Nova yn ailagor gyda thema newydd yn dilyn difrod storm Eunice
Ahoi! Bydd môr-ladron yn meddiannu’r ardal Chwarae Antur yn Nova dros yr wythnosau nesaf i drawsnewid ardal Chwarae Nova a’r Caffi fewn i ynys llawn trysor ac anturiaethau.
Lle Chwarae Nova yw un o’r canolfannau Chwarae Antur fwyaf yng ngogledd Cymru ac mae’n mynd o nerth i nerth.
Roedd y difrod ar y to wedi’i greu gan Storm Eunice wedi achosi i Chwarae Antur Nova gau’r wythnos diwethaf, felly tra bod y cyfleuster ar gau i’w atgyweirio, mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi cymryd y cyfle i wella’r ardal chwarae a’r caffi, ac ailagor gyda gwedd newydd gyffrous.
Wedi llwyddiant y Lle Chwarae Antur yn SC2 a’r tyrfaoedd a fu’n heidio i Gwt y Traeth yn yr Haf, mae’r lle chwarae’n cael ei ailwampio’n llwyr gan roi stamp Hamdden Sir Ddinbych arno go iawn. Bydd y strwythur chwarae yn dyblu mewn maint ac yn cael ei drawsnewid gydag addurniadau newydd ar thema môr-ladron.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Tra bod gwaith atgyweirio ar y to yn cael ei wneud, rydym wedi penderfynu dod â’r rhaglen yr oeddem wedi’i chynllunio i wella’r profiad chwarae yn Nova ymlaen. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ymwelwyr a chwsmeriaid yn dychwelyd i’r profiad cwsmer o safon y maen nhw wedi dod i’w ddisgwyl gan Hamdden Sir Ddinbych, ac o safbwynt busnes mae hyn nawr yn golygu nad oes rhaid i ni gau i wella’r ardal chwarae. Bydd cymryd y cyfle hwn yn rhoi profiad newydd i’n cwsmeriaid edrych ymlaen ato.
“Lle Chwarae Nova yw’r un mwyaf poblogaidd yn y rhanbarth ac mae cwsmeriaid yn trafeilio o bell ac agos i chwarae ar y strwythur unigryw sydd yma. Mae Cwt y Traeth, Nova wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers iddo agor, ac wedi lansio Clwb Nova, ein profiad ffitrwydd blaenllaw gyda bar clwb unigryw, iawn o beth oedd inni fuddsoddi yn ein lle chwarae hefyd fel ei fod cystal â phob dim arall sydd gennym i’w gynnig yn Nova. Mae hyn yn cadarnhau ein henw da fel y gyrchfan hamdden orau yng ngogledd Cymru.”
Bydd y gwaith yn dechrau ar 28.2.22 a disgwylir ei gwblhau ymhen pedair wythnos.
Ychwanegodd Jamie: “P’un a ydych chi’n edrych i ymlacio gyda choctel ger Cwt y Traeth, mwynhau cinio dydd Sul bendigedig, hyfforddi fel athletwr o fri yng Nghlwb Nova neu adael i’r plant redeg yn rhydd yn y lle chwarae, mae rhywbeth at ddant pawb yn Nova.”


Profiad bwyta awyr agored newydd yn lansio yng Nghaffi R yn Rhuthun
Mae’r Caffi R ar ei newydd wedd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun yn dod â phrofiad bwyta awyr agored cyffrous i’r dref y Gwanwyn hwn.
Yn dilyn ail-lansiad llwyddiannus y caffi llynedd, ciniawa Al-fresco yw’r cam nesaf wrth fynd cymryd adnewyddiad Caffi R i’r lefel nesaf.
Gydag awyrgylch cyfeillgar, amrywiaeth o fwyd bendigedig a bwyty cyfeillgar i deuluoedd (gan gynnwys y ci!), mae Caffi R yn blaguro fel y lle i giniawa yn Rhuthun.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Ers ail-agor, rydym wedi bod wrth ein bodd gyda’r adborth gwych a dderbyniwyd ar gyfer Caffi R yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Mae poblogrwydd y caffi yn ffynnu, a gyda’r dyddiau’n mynd yn hirach a thywydd gwell ar y ffordd, bydd prosiect i ehangu’r caffi i gynnwys profiad bwyta awyr agored newydd yn dechrau’n fuan iawn. Bydd Caffi R yn le perffaith ar gyfer cinio hamddenol al fresco dros fisoedd yr haf, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid (dwy a phedair coes!) i’r datblygiad newydd gwych hwn.”
Bydd y pergola awyr agored newydd gyda goleuadau clasurol yn agor cynnig gyda’r nos i’r caffi, gydag oriau agor estynedig unwaith y bydd y tywydd yn cynhesu.
Bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn canol mis Mawrth a bydd y Caffi y tu mewn yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.denbighshireleisure.co.uk/caffi-r
Swyddi newydd ar gael yn dilyn twf cwmni Hamdden Sir Ddinbych
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn annog pobl i ‘garu’r hyn rydych chi’n ei wneud’ gyda dros 40 o rolau i recriwtio ar draws y sir.
O achubwyr bywyd i staff bar a rheolwyr clwb ffitrwydd, i gynorthwyydd cyfrifon cyllid, gwestai gwasanaethau Nova a gwesteiwr Ninja TAG yn SC2, mae Hamdden Sir Ddinbych yn edrych i ehangu ei weithlu ar draws atyniadau, bwytai a safleoedd hamdden, i gyd-fynd ag anghenion y busnes cynyddol.
Mae’r slogan ‘Caru’r hyn ti’n wneud’ yn pwysleisio’r pwysigrwydd y mae Hamdden Sir Ddinbych yn ei roi ar weithwyr yn mwynhau eu rôl, a bod gweithio i’r cwmni yn ‘fwy na swydd yn unig’. Dechreuodd yr ymgyrch recriwtio hon yn y Flwyddyn Newydd ac mae llawer o’r rolau bellach yn fyw ar wefan y cwmni.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Rydym wrth ein bodd yn dod â mwy o gyfleoedd cyflogaeth i’r sir, gyda swyddi ar gael ar draws ein gwasanaethau. Yn Hamdden Sir Ddinbych, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn a chefnogi ein pobl ac er mwyn cynnal ein safonau uchel a gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol, rydym yn teimlo ei bod yn bwysig i’n gweithwyr garu’r hyn y maent yn ei wneud.”
Am fwy o wybodaeth a sut i wneud cais, ewch i: denbighshireleisure.co.uk/cy/gyrfaoedd.

Noson arbennig o fwyd ac adloniant i ddathlu San Ffolant yng Nghaffi R, Rhuthun
Bydd Caffi R yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar agor yn hwyr am un noson arbennig Nos Sadwrn 12 Chwefror i ddathlu San Ffolant.
Hwn fydd yr agoriad noson hwyr cyntaf i Gaffi R gynnal ers iddo ailagor gyda gwedd a brand newydd ym mis Hydref 2021. Bydd y bwyty modern sydd wedi’i leoli o fewn muriau Canolfan Grefft Rhuthun ar agor fel arfer o 9am drwy’r dydd ond bydd yn croesawu gwesteion swper San Ffolant rhwng 5:30pm-8pm gyda gwydraid o prosecco wrth gyrraedd.
Y cerddor dawnus Jacob Elwy fydd yn diddanu wrth i westeion fwynhau pryd bwyd rhamantus; anogir gwesteion i archebu bwrdd ymlaen llaw i fwynhau’r fwydlen San Ffolant 3 chwrs arbennig a’r adloniant.
Mae’r Prif Gogydd newydd, Jamie Winning, wedi llunio bwydlen arbennig ar gyfer noson hwyr cyntaf y Bwyty, gan gynnwys Cacen bysgod eog Thai gyda salad roced, Stecen Rwmp Cymreig gyda sglodion cartref a Crème brulee siocled gwyn a Baileys. Gellir mwynhau tri chwrs am £49.90 y cwpl yn unig, gyda gwydraid o prosecco am ddim wrth gyrraedd.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf, Jamie Groves “Mae llawer o waith caled wedi’i rhoi fewn i greu’r bwyty Caffi R newydd a ail-agorodd ym mis Hydref 2021. Mae pob agwedd o’r Bwyty yn cynnig profiad bwyta o safon uchel a byddem wrth ein bodd i gael preswylwyr a thrigolion yn ymweld â ni a ni yng Nghaffi R ar gyfer San Ffolant I gefnogi ein profiad cyntaf un o agor gyda’r nos. Ynghyd â’n Prif Gogydd newydd a’n tîm gwych yng Nghaffi R, rydym yn edrych ymlaen at gynnal noson wych gyda chefnogaeth cynnyrch lleol, a thalent leol yn perfformio. Bydd hwn yn flas o’r pethau sydd i ddod yng Nghaffi R wrth i ni adeiladu tuag at ein llefydd bwyta awyr agored newydd sydd i fod i gael eu cwblhau adeg y Pasg..
I gael fwy o wybodaeth neu i archebu bwrdd, ffoniwch Gaffi R ar 01824 708099 ar agor 9am-4pm Dydd Mawrth-Sul neu cysylltwch â Chaffi R yn uniongyrchol ar Facebook.

Gwnewch Les i’ch hunain y Gaeaf hwn gyda Hamdden Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru
Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cynnal dros 1,000 o weithgareddau am ddim i deuluoedd gadw’n heini a chael hwyl y gaeaf hwn.
Yn dilyn Haf o Hwyl lwyddiannus, mae’r Gaeaf o Les yn cychwyn y mis hwn ar draws y sir gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, i roi tocynnau am ddim i’r gymuned i atyniadau a safleoedd Hamdden Sir Ddinbych.
Bydd dros 1,000 o docynnau am ddim ar gael i’r cyhoedd, gan gynnwys tocynnau Ninja TAG am ddim, tocynnau i weithgareddau gwyliau Sport Zone yn Rhuthun, Dinbych a’r Rhyl, tocynnau i chwarae yn safle Chwarae Antur Nova a Chwarae Antur SC2, yn ogystal â Chwarae Meddal yn Llangollen , Rhuthun a’r Rhyl, a llawer mwy o weithgareddau’n cael eu cynnig, gan gynnwys llogi cyrtiau badminton am ddim i deuluoedd a sesiynau Learn2Ride.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae Ionawr yn fis anodd i bawb, yn enwedig eto eleni gyda Covid-19, felly rydym yn falch iawn o fod yn rhoi miloedd o docynnau am ddim i blant a theuluoedd i fynd allan mis Ionawr yma, i gadw’n heini a chael hwyl, mewn amgylchedd diogel. Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu pobl i ddechrau’r flwyddyn newydd mewn ffordd hwyliog a chadw’n heini ar yr un pryd.”
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.denbighshireleisure.co.uk/winterofwellbeing

Jack Savoretti a Beverley Knight yn cyhoeddi sioe awyr agored unigryw yn Arena Digwyddiadau Y Rhyl
Mae Jack Savoretti, sydd newydd lansio’i sengl newydd anhygoel, The Way You Said Goodbye, wedi cyhoeddi y bydd yn perfformio sioe unigryw yng Ngogledd Cymru yn Arena Digwyddiadau awyr agored Y Rhyl ar Orffennaf 9fed 2022.
Bydd Savoretti yn cael ei gefnogi gan neb llai na Brenhines miwsig yr enaid, Beverley Knight, un nad yw’n ddieithr i berfformio ar lwyfan, gyda sawl albwm yn cyrraedd y 10 safle uchaf yn y siartiau gan gynnwys yr albwm platinwm Voice: The Best of Beverley Knight. Aeth albwm diweddaraf y gantores enaid ‘Soulsville’ a ryddhawyd yn 2016 yn syth i siartiau Top 10 y DU. Yn fwy diweddar, mae Knight wedi ymddangos ar newyddion BBC ac ITV gyda’i dychweliad i lwyfan y West End i chwarae rhan Faye Treadwell mewn sioe gerdd newydd, The Drifters Girl.
Perfformiodd Jack Savoretti ddiwethaf yng Ngogledd Cymru i gymeradwyaeth anferthol wrth gefnogi Paloma Faith yng Ngorffennaf 2018.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gallu cynnal penwythnos cyfan yn llawn dop o berfformwyr a thalent adnabyddus i drigolion lleol Sir Ddinbych a thu hwnt. Gyda James yn cychwyn y gyfres o gyngherddau, o flaen Jack Savoretti a Beverley Knight, a gyda Tom Grennan yn dod â’r penwythnos i ben, mae’n benwythnos na ddylid ei golli gyda rhywbeth i bawb.
“Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gyffrous iawn i weithio gydag Orchard Live eto’r flwyddyn nesaf yn dilyn ymlaen o’r noson wych gyda Tom Jones yn Arena Digwyddiadau Y Rhyl. Mae’r Arena Digwyddiadau yn dod yn fwy a mwy poblogaidd gyda pherfformwyr poblogaidd, gyda’i leoliad unigryw ar lan y môr a rhwyddineb mynediad, mae’n lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau cerddoriaeth. ”
Dywedodd Pablo Janczur o Orchard Live “Rydyn ni’n gyffrous iawn am ddychwelyd i’r Rhyl am benwythnos llawn o gerddoriaeth fyw. Yn dilyn llwyddiant Syr Tom Jones eleni, mae gennym linell wych gyda Jack Savoretti a chefnogaeth Beverley Knight rhwng James ar y Dydd Gwener a Tom Grennan ar y Dydd Sul, bydd yn benwythnos perffaith lawn cerddoriaeth yr haf nesaf! ”
Gall ffans gofrestru ar gyfer tocynnau cynnar yma: https://mailchi.mp/orchardlive.com/jack-savoretti-presale. Bydd tocynnau cyffredinol yn mynd ar werth Ddydd Gwener 10fed Rhagfyr am 10am ar wefan Theatr y Pafiliwn Rhyl a Gigantic.com.
Mae’r sioe yn cwblhau penwythnos llawn dop o gyngherddau a gynhyrchwyd gan Orchard Live mewn partneriaeth â Hamdden Sir Ddinbych Cyf gyda’r band James yn cychwyn yr ŵyl gerddoriaeth ar Orffennaf 8fed, gyda chefnogaeth The Lightening Seeds & The Ks. Yn ogystal â seren bop Tom Grennan yn dod â’r penwythnos i ben ar Orffennaf 10fed. Mae tocynnau ar gyfer y ddwy sioe ar werth nawr o wefan Gigantic.com a Theatr y Pafiliwn Rhyl.
Hamdden Sir Ddinbych yn datgelu Rhyfeddod Nadolig yn SC2 Y Rhyl, gan gynnwys groto Siôn Corn a Chorachod
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gyffrous i gyhoeddi y byddant yn croesawu Siôn Corn a’i Gorachod y mis Rhagfyr hwn yn Ninja TAG Rhyl i ledaenu hwyl y Nadolig y tymor Nadoligaidd hwn.
Bydd Ninja TAG Rhyl yn cael ei drawsnewid yn rhyfeddod Nadoligaidd, gyda groto clyd lle bydd Siôn Corn yn croesawu plant am brofiad hudolus i’w gwrdd â ‘i gyfarch lle gallant ddweud wrth y dyn ei hun beth sydd ar eu rhestr o ddymuniadau y Nadolig hwn.
Bydd Siôn Corn a’i Gorachod yn Ninja TAG bob Dydd Sadwrn a Dydd Sul ym mis Rhagfyr yn ogystal â Dydd Mercher 22ain a Dydd Iau 23ain i gwrdd â chyfarch plant ag anrheg.
Bydd plant yn mynd i ysbryd yr ŵyl trwy rasio Corachod Siôn Corn mewn cystadleuaeth gyfeillgar ‘Rasiwch y Corachod’ yn ceisio curo sgôr Siôn Corn yn arena NinjaTAG.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydyn ni’n falch iawn o allu cynnal y fath amrywiaeth o ddigwyddiadau’r tymor Nadoligaidd hwn! Ar ôl y rhwystrau i gyd y llynedd oherwydd y pandemig, rydyn ni wedi ceisio ein gorau glas i roi cyfle i bawb fwynhau ysbryd y Nadolig trwy gynnal y digwyddiadau arbennig hyn. Rydyn ni eisiau creu atgofion, ac mae’r digwyddiadau hyn yn ffordd berffaith o ddathlu’r Nadolig gyda’r teulu cyfan. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu preswylwyr ac ymwelwyr i SC2 yn Y Rhyl. ”
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer y digwyddiadau hyn, ac anogir i archebu ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Mae’r digwyddiadau Nadolig ar agor i bob oedran. Am ragor o wybodaeth ac i archebu’ch lle ewch i ninjatag-rhyl.co.uk/cy/digwyddiadau/

Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi’i phlesio’n fawr i gyhoeddi sioe enfawr arall sy’n dod i Arena Digwyddiadau Y Rhyl yn yr Haf 2022
Mae band arbennig o Fanceinion, James wedi cyhoeddi sioe awyr agored enfawr yng Ngogledd Cymru’r haf nesaf.
Yn chwarae yn Arena Digwyddiadau Y Rhyl Ddydd Gwener 8fed Gorffennaf, bydd y band yn cael cefnogaeth gan The Lightning Seeds a The K’s.
Rhyddhawyd 16eg albwm stiwdio James ’All The Colours Of You’ a derbyniwyd canmoliaeth enfawr yn gynharach eleni a chwaraeodd y band mewn nifer o wyliau ledled y DU ac Ewrop yr haf hwn.
All The Colours Of You yw eu cyntaf ar y label newydd, Virgin Music Label & Artists Services a’u cartref cyhoeddi newydd, Kobalt Music.
Bydd James yn perfformio traciau o’r record newydd a llawer mwy o’u catalog cyfoethog pan fyddant yn chwarae’r Rhyl yr haf nesaf.
Dilynir y sioe gan Tom Grennan yn perfformio yn yr Arena Digwyddiadau ar Orffennaf 10fed 2022 ac ar gefn cyngerdd rhagorol Syr Tom Jones yn gynharach eleni.
Dywedodd Pablo Janczur o’r cwmni hyrwyddo Orchard Live ‘Cawsom amser gwerth chweil pan ddaethom â Syr Tom Jones i’r Rhyl yr Haf hwn felly roeddem eisiau dod yn ôl am fwy o hwyl! Ni allwn aros am y sioe hon, ar ddiwrnod braf o haf ar lan y môr, mae Rhyl yn lle anhygoel ar gyfer cyngerdd awyr agored i fand byw rhagorol fel ‘James’.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf; “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni’n dod â’r bandiau eiconig hyn i Rhyl. Mae’n wych gweld perfformwyr mor amlwg yn dod i’r Rhyl. Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn hynod o falch o fod yn gweithio gydag Orchard Live eto eleni ar ôl cyngerdd hynod lwyddiannus Tom Jones. Dyma enghraifft arall eto o Rhyl yn dod yn gyrchfan o ddewis i fuddsoddwyr a pherfformwyr. ”
Mae’r tocynnau’n mynd ar werth am 10am Ddydd Gwener, 19eg Tachwedd trwy Gigantic.com, RhylPavilion.co.uk a Swyddfa Docynnau Pafiliwn Y Rhyl ar 01745 330000.
Gall ffans gofrestru yn arbennig ar gyfer tocynnau cynnar yma: https://mailchi.mp/orchardlive/jamesrhyl2022
Sylwch, dim ond trwy ffonio Swyddfa Docynnau Theatr Pafiliwn Y Rhyl ar 01745 330000 y gellir archebu seddi hygyrch.
Chwilio newyddion
Newyddion Diweddar
- Swyddog Dyletswydd – X20 Llanelwy 4th Chwefror 2025
- Swyddog Dyletswydd – Hamdden Rhyl 4th Chwefror 2025
- Stiwdio Cardio o’r radd flaenaf yn cael ei lansio fel rhan o ddatblygiad £1miliwn Clwb y Rhyl 3rd Chwefror 2025
- Cam cyntaf datblygiad campfa gwerth £1 miliwn yn cael ei lansio yng Nghlwb y Rhyl 16th Ionawr 2025
- Cynnig Teyrngarwch Lleol DLL i fywiogi misoedd y gaeaf wrth ddod â gostyngiad 50% ar chwarae ac anturiaethau 28th Tachwedd 2024