DLL wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau GO 2026 yn dilyn llwyddiant Fframwaith Hamdden Cenedlaethol y DU
Mae Fframwaith Hamdden cenedlaethol hynod lwyddiannus DLL wedi’i enwi fel un o’r ymgeiswyr terfynol yng Ngwobrau GO 2026, sy’n dathlu mentrau caffael clyfar ac effeithiol.
Mae Fframwaith Hamdden y DU, sy’n cael ei reoli gan DLL, ac a gyflwynir gan y partner datblygu Alliance Leisure, wedi’i enwi fel un o’r ymgeiswyr I gyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Menter Caffael Cydweithredol yn y gwobrau nos Iau 18 Mehefin yn Lerpwl. Mae’r categori hwn yn cydnabod pwysigrwydd cynyddol cydweithio mewn caffael cyhoeddus a’r manteision y gellir eu gwireddu trwy gydweithio.
Mae’r Fframwaith yn cynnig atebion busnes ar gyfer prosiectau hamdden mawr gan gynnwys dylunio, adnewyddu, adeiladu a datblygu canolfannau hamdden, theatrau, cyfleusterau hamdden a chyfleusterau chwaraeon ledled y DU. Trwy’r Fframwaith, mae DLL yn dylanwadu ar agendâu hamdden cenedlaethol ac yn helpu awdurdodau lleol, darparwyr addysg, a chyrff cyhoeddus i gyflawni canlyniadau gwell i’w cymunedau.
Dywedodd John Leaver, Cyfarwyddwr Marchnata a Fframweithiau, Alliance Leisure, “Rydym wedi croesi ein bysedd ar gyfer y noson wobrwyo yn Lerpwl ac mae cael ein dewis fel un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn gydnabyddiaeth o’r cydweithio aruthrol y mae ein partneriaid yn ei gyfrannu at bob prosiect. Mae Fframwaith Hamdden y DU yn bodoli i drawsnewid iechyd a lles cymunedau lleol ledled y DU, a bydd gwobrau GO yn helpu i arddangos y llwyddiant y mae’r Fframwaith wedi’i gael.”
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr, DLL “Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Fframwaith Hamdden y DU wedi helpu i gyflawni 206 o brosiectau, gyda chyfanswm o £313 miliwn gyda £250 miliwn pellach o ddatblygiadau ar y gweill. Mae’r rhain wedi cynnwys rhai trawsnewidiadau gwych o gyfleusterau chwaraeon ar draws sector cyhoeddus y DU. Yn DLL, rydym yn falch iawn o’r effaith y mae’r Fframwaith wedi’i chael ar y diwydiant hamdden a thrwy ei lwyddiant, y cyfleoedd y mae wedi’u cynnig i bobl ledled y DU, sy’n gallu gwella eu hiechyd a’u lles yn y cyfleusterau gwych hyn. Rydym yn hynod falch o fod wedi cael ein henwi fel un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau GO, yn enwedig yng ngoleuni’r safonau anhygoel o uchel ac yn edrych ymlaen at noson wych”.
