DLL yn cefnogi Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang trwy Brosiect Celf a goleuo adeiladau
I gefnogi Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang 2026, mae prosiect celf wedi bod yn digwydd yn Ysbyty Cymunedol Rhuthun yn cynnwys cleifion a disgyblion blwyddyn 9 Ysgol Brynhyfryd.
Mae’r cleifion sy’n cymryd rhan yn y gweithgaredd yn edrych ymlaen at eu hymweliad bob wythnos ac yn mwynhau’r gwaith creadigol gyda chefnogaeth y myfyrwyr, gan siarad a rhannu straeon a phrofiadau.
Arweiniwyd y prosiect gan yr artist proffesiynol Jude Wood, ar ran Tîm Celfyddydau Cymunedol DLL. Cafod Jude gefnogaeth gan Joanna Roberts, Cydlynydd Gweithgareddau yn yr ysbyty, sydd wrth ei bodd â’r canlyniadau cadarnhaol y sesiynau grŵp. Mae’r prosiect wedi’i gydlynu gan dîm Celfyddydau Cymunedol DLL a’i ariannu gan Grant Ymwybyddiaeth Dementia Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych.
Mae’r Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang yn cael ei gynnal rhwng 24 a 30 Ebrill, gyda’r nod o ddathlu a hyrwyddo cysylltiadau ystyrlon rhwng y cenedlaethau, gan fynd i’r afael â materion fel ynysu cymdeithasol a meithrin cyfeillgarwch rhwng y cenedlaethau.
Bydd Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, rhaeadr yr Arena Ddigwyddiadau, Canolfan Grefft Rhuthun a llochesi arfordirol Sir Ddinbych i gyd yn cael eu goleuo’n binc trwy gydol Wythnos Pontio’r Cenedlaethol Byd-eang.
Mae’r prosiect wedi cael ei gefnogi gan Ysgol Brynhyfryd, drwy’r athro Carl Murray a ddewisodd y myfyrwyr i gymryd rhan.
Dywedodd Mr Murray: “Mae rhai o’r sgyrsiau sy’n digwydd yn hyfryd ac mae’r caredigrwydd a’r empathi a ddangosir gan ein myfyrwyr tuag at y rhai sydd mewn sefyllfa fregus mor galonogol i’w weld.”
Cyn ymweld â’r ysbyty ar gyfer y sesiynau wythnosol, mynychodd y disgyblion sesiwn Cyfeillion Dementia a gynhaliwyd yn yr ysgol, i’w helpu i ddeall mwy am y cyflwr a chael ymwybyddiaeth o sut mae’n effeithio ar bobl.
Dywedodd yr artist Jude Wood: “Gan fod rhai o’r cleifion wedi aros yn yr ysbyty ers amser maith, mae’r disgyblion wedi cael y cyfle i adeiladu cysylltiadau dyfnach gyda nhw, eu teuluoedd a’r staff. Mae ein sesiynau creadigol gyda’n gilydd wedi bod yn rhywbeth i edrych ymlaen ato i bawb sy’n cymryd rhan.”
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “2026 yw chweched flwyddyn Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang, ac unwaith eto mae DLL yn falch o fod yn rhan o brosiect creadigol o’r fath, sy’n anelu at gael pobl ifanc yn gyfarwydd â gweithio gyda phobl hŷn, a hefyd yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o fyw gyda dementia. Mae nifer o astudiaethau yn dangos bod pobl hŷn yn ymateb i gael pobl ifanc yn treulio amser gyda nhw ac yn dangos diddordeb ynddynt a bod y prosiect arloesol hwn o fudd i’r bobl hŷn sy’n cymryd rhan, rhai ohonynt yn byw gyda dementia, a’r myfyrwyr ifanc sy’n gweithio gyda nhw. Mae prosiectau fel y rhain yn enghraifft wych o feithrin gwir berthynas rhwng cenedlaethau a bydd DLL yn goleuo adeiladau’n binc trwy gydol yr Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang, i gefnogi’r achos ysbrydoledig hwn ymhellach.”
