DLL yn dod ag oes newydd o ffitrwydd i Glwb Nova
Bydd cyfleusterau ffitrwydd DLL yng Nghlwb Nova, Prestatyn yn croesawu oes newydd o ffitrwydd yr haf hwn gyda campfa newydd wych.
Bydd y profiad ffitrwydd blaenllaw sydd wedi’i leoli o fewn atyniad blaenllaw DLL, Nova Prestatyn, yn cael ei hadnewyddu’n llwyr yn fuan, gan roi cyfle i aelodau hyfforddi fel athletwyr elitaidd, gydag offer arloesol diweddaraf Technogym.
Mae Olympiaid, athletwyr elitaidd a thimau chwaraeon gorau ledled y byd yn ymddiried yn offer Technogym, ac mae’r cwmni wedi gweithio ochr yn ochr â’r tîm yn DLL, i greu trawsnewidiad llwyr o’r cyfleusterau presennol, wedi’u hailgynllunio i ddod â amgylchedd ysgogol i aelodau i gyrraedd eu nodau ffitrwydd. Bydd yr offer newydd sydd ar ddod yn cynnwys estyniad cyffrous o ystod ‘Technogym Pure Strength’ ac ‘Excite Live’.
Mae tri prosiect yn digwydd yn Nova yr haf hwn, ac adnewyddu Clwb Nova yw’r cyntaf ohonynt. Ar ôl ei gwblhau, fydd y prosiect hwn yn ategu at enw da’r atyniad fel cyrchfan.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi adnewyddiad Clwb Nova – y prosiect cyntaf o haf i’w gofio yn Nova, Prestatyn. Bydd yr uwchraddio i Glwb Nova yn dod â lefel hollol newydd o gyfleoedd hyfforddi ac ymarfer corff i’n haelodau. Felly p’un a fyddwch chi’n ymweld â Nova i hyfforddi fel y gorau, neu i ymlacio, byddwch chi’n ymarfer mewn amgylchedd a fydd yn eich cefnogi ac yn eich bywiogi a chyda thîm o weithwyr proffesiynol wrth law i’ch helpu i gyrraedd eich nodau. Dyma’r cyntaf o dri phrosiect sy’n dod yr haf hwn, felly gyda mwy o newyddion cyffrous i ddod am Nova, cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am fwy o gyhoeddiadau’n dod yn fuan!”
