Llongyfarchodd staff ar draws DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) eu cydweithiwr Ellie Tudor ar ei llwyddiant diweddar yn nigwyddiad Miss Cymru.

Mae Ellie, sy’n dod o Rhuthun, wedi ychwanegu at ei rhestr o gyflawniadau fel achubwr bywyd, hyfforddwr nofio, myfyriwr a chwaraewr rygbi trwy gyrraedd y 5 uchaf yn nigwyddiad Miss Cymru diweddar.

Yn ogystal â’i rolau rhan-amser fel athrawes nofio ac achubwr bywyd yn DLL, mae Ellie ar hyn o bryd yn astudio i fod yn athrawes ysgol gynradd. Y tu allan i’w hastudiaethau a’i gwaith gyda DLL, mae Ellie yn cael ei gyrru gan angerdd dros chwaraeon. Mae hi wedi chwarae, hyfforddi a chefnogi rygbi, ac mae hefyd wrth ei bodd â gêm bêl-rwyd. Trefnodd Ellie hefyd ddawns elusennol yn ddiweddar er budd bachgen lleol, ac i godi ymwybyddiaeth o Alternating Hemiplegia Plentyndod.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Hoffai pawb yn DLL longyfarch Ellie ar y cyflawniad gwych hwn. Rydym bob amser yn falch iawn o weld ein gweithwyr yn dilyn eu hangerdd ac fel cwmni byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i’w cefnogi, boed hynny gydag uchelgais broffesiynol neu freuddwyd bersonol. Mae Ellie yn enghraifft wych o berson ifanc, gan ddangos penderfyniad a gwydnwch ym mhob agwedd ar ei bywyd, ac yn profi i fod yn fodel rôl rhagorol i’r merched ifanc y mae’n gobeithio eu hysbrydoli.”