HSDd yn hyrwyddo Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl trwy Bartneriaeth Celfyddydau Cymunedol
Mae HSDd (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn hyrwyddo Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl trwy bartneriaeth barhaus rhwng eu Tîm Celfyddydau Cymunedol a Chwmni Buddiannau Cymunedol Carter’s.
Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 11 Mai a 17 Mai ac mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd iechyd meddwl a helpu’r rhai sydd angen cymorth.
Fel Cwmni Buddiannau Cymunedol, mae Carter’s, sydd wedi’i leoli yn Rhuthun, yn gweithredu gyda phwrpas cymdeithasol yn ganolog i bopeth, gan ailfuddsoddi ei ymdrechion ac adnoddau i gefnogi pobl leol i gyflawni buddion go iawn tra’n parhau i ganolbwyntio ar effaith cymdeithasol yn hytrach nag elw. Dros y misoedd diwethaf mae Tîm Celfyddydau Cymunedol HSDd wedi bod yn cydweithio gyda Carter’s i ddarparu ymyraethau creadigol i leihau arwahanrwydd ac unigrwydd tra’n hyrwyddo lles ar hyd a lled Sir Ddinbych.
Gyda’i gilydd mae HSDd a Carter’s wedi bod yn darparu gweithdai creadigol gyda chefnogaeth Creative Well BIPBC wedi’i ariannu gan NHS Charities Together. Grŵp atgyfeirio yn unig yw ‘More Than A Cuppa’, ac mae ar agor i oedolion sy’n gleifion gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofal Eilaidd.
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol Carter’s yn darparu amgylchedd diogel, cynhwysol lle gall unigolion gysylltu, meithrin perthnasoedd a datblygu ymdeimlad o berthyn. Trwy ei weithgareddau a chefnogaeth, nod y sefydliad yw gwella lles meddyliol a chreu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltiad cymdeithasol ystyrlon—yn enwedig ar gyfer y rhai allai fod yn teimlo’n unig neu’n ddigyswllt.
Meddai Holly Williams, Cwnselydd Therapiwtig gyda Carter’s “Trwy feithrin mannau cynhwysol ac annog cyfranogiad cymunedol, mae Cwmni Buddiannau Cymunedol Carter’s yn helpu i greu rhwydweithiau lleol cryfach sydd yn fwy gwydn a chynnig cefnogaeth hollbwysig i unigolion sydd ei angen fwyaf.” Meddai un cyfranogwr, “Doeddwn i ddim yn gadael y tŷ o’r blaen. Roedd ymuno â grŵp cymdeithasol yn rhywbeth mawr i mi ei wneud ac mae hi wedi cymryd peth amser i mi hyd yn oed fynd mewn i’r adeilad – ond mi alla’ i wneud hynny rŵan. Mae’r grŵp yma’n rhoi strwythur i fy wythnos, dwi’n gwybod fy mod i’n mynd i Carter’s ar ddyddiau Gwener.”
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd “Mae codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a lles, ynghyd â helpu’r rhai sydd angen cymorth yn rhywbeth mae ein Tîm Celfyddydau Cymunedol yn rhagori arno. Trwy dynnu sylw at ein partneriaeth gyda Carter’s a chefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, rydym ni’n cymryd camau cadarnhaol tuag at gael gwell dealltwriaeth o sut y gall pobl gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.”
Ar hyn o bryd, mae’r artist proffesiynol Jude Wood yn cyflwyno gweithdai yn Rhuthun gyda Carter’s gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae Sesiynau Lles Creadigol i Ferched yn cynnal sgyrsiau agored am bynciau sydd o bwys i ferched, yn cynnwys perimenopôs a menopôs, perthnasoedd, hunaniaeth a newidiadau bywyd, pryder a niwroamrywiaeth.

